Ewch i ddarllen am agoriad gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd, Tachwedd 2004. Hwn yw'r gwersyll newydd sydd ar fin agor yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Hyd ddiwedd Hydref roedd Hywel yn gweithio yn Swyddfa'r Urdd, Aberdâr, fel Swyddog Datblygu Cynorthwyol i ranbarth Morgannwg Ganol. Yn awr bydd yn ymuno â'r staff sydd wedi symud i'w cartref newydd o Ganolfan yr Urdd, Heol Conwy, ym Mhontcanna.
Wythnos cyn iddo symud at ei gydweithwyr newydd cafodd Hywel gyfle ardderchog i gyfarfod rhai ohonyn nhw -yn yr awyr! Roedd o'n un o ddeg o gynrychiolwyr y mudiadau sy'n gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm fentrodd neidio â pharasiwt i gasglu arian ar ran Touch Trust. Teithiodd y parasiwtwyr i faes awyr ger Nottingham i gyflawni eu camp. Mae Hywel yn hynod o ddiolchgar i'r rhai a'i noddodd. Rhwng pawb, credir bod y deg wedi codi dros fil o bunnau i brynu offer ar gyfer y rhai ag anableddau eithriadol o ddwys y bydd Touch Trust yn eu croesawu i'r Bae.
Cynrychiolydd arall yr Urdd ar y naid oedd y "Parchedig Pop" ei hun - y Dr Alun Owens, Pennaeth newydd Gwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd. Yn y parti hefyd roedd un hen law arni -Dilys Price sydd wedi neidio dros fil o weithiau ar ran yr un gronfa -ac sy'n 73 oed.