Tipyn o sioc, nôl ym mis Tachwedd, oedd clywed fod y Tywysog Charles wedi prynu Llwynwermwd. Pam? Wel, dyma oedd cartref fy mam cyn iddi briodi fy nhad a symud lawr i ardal Trefin a Mathri yn Sir Benfro i fod yn wraig y Mans.
I Lwynwermwd arferai fy mrawd a minne fynd i dreulio cyfnod yn ystod gwyliau'r haf pan yn blant ac aros gyda Wncwl Davy, brawd mam, ac Anti Ray a'n cefnither, Lonw. D.T. Lewis oedd enw Wncwl Davy a fe oedd un o sylfaenwyr Undeb Amaethwyr Cymru. Wncwl Davy datblygodd y dileit ffermio yn fy mrawd, ac yn ei dro, tyfodd yntau i fod yn ffermwr llwyddiannus yng ngorllewin Cymru.
Mae Mefin fy mrawd, yn dal i gofio enwau'r perci a oedd yn berchen i Lwynwermwd a sut yr arferai e' ac Wncwl Davy fynd lawr i'r afon liw nos i ddal pysgod. Do, fe ddysgodd lawer o dan ddylanwad Wncwl Davy!
'Doeddwn i ddim yn treulio cymaint o amser yno a'm brawd gan fod chwaer mam, Anti Evelyn, yn byw yr ochr arall i Lanymddyfri ac felly fel arfer, treuliwn noson neu ddwy yn Llwynwermwd a gweddill yr amser ar fferm y Garth.
Tra yn Llwynwermwd, beth bynnag, hoffwn fynd lawr i adfeilion yr hen blas nid nepell o'r ffermdy a breuddwydio fy mod yn dywysoges. Bryd arall 'roeddwn yn mynd yno i chwilio am drysor cudd. Pwy feddylie bod yr hen Charles nawr yn teyrnasu yno! I mi ffermdy Cymreig cyffredin oedd cartref Wncwl Davy, Anti Ray a Lonw ond erbyn heddiw mae'n gartref i'r teulu brenhinol!
Gadewch i mi ddweud braidd yn ymffrostgar - yn yr iaith fain mae arna'i ofn - "I've sat on the throne of the heir to the throne!" Pwy feddylie?'
gan Eiry Rochford o Bentyrch
|