Rhoddir amheuaeth ar bwysigrwydd medd yn hanes Cymru mewn cyfrol newydd ar faeth a bwyd gan wasg Y Lolfa. Gyda chymaint o gyfeiriadaeth at fedd yn ein traddodiad barddol, ystyriwyd medd fel diod cynhenid Gymreig pwysig, ond yn ôl y llyfr newydd Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes, ymddengys mai prin iawn oedd yr yfed ar fedd gan drwch poblogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd. Yn ôl yr awdur "Dim ond gan yr Uchelwyr yn y llysoedd yr oedd medd a mêl mewn bri -mae'n anodd credu fod medd erioed wedi bod yn ddiod cyffredin ymhlith y werin Gymreig". Ond datgelir fod meddyglyn, sef medd gyda pherlysiau, yn ddiod a yfid yn aml am resymau meddyginiaethol yng Nghymru. Esbonnir hefyd yn y llyfr bwysigrwydd bragod, sef cwrw wedi ei felysu gyda mêl, a diod griafol i hanes maeth y Cymry. "O bosib mae diod griafol, a ddisgrifiwyd, oedd y ddiod fwyaf Cymreig a mwyaf diddorol yn ein hanes," yn ôl yr awdur.
|