Y BYD o dan gadeiryddiaeth Gareth Miles.
Mae'n amlwg fod Ned Thomas wedi gwneud llawer o waith ymchwil a pharatoadol a rhoddodd ddarlun clir o'r hyn sydd wedi ei wneud a'r angen am gefnogaeth i sicrhau llwyddiant y papur. Y gobaith yw cychwyn cyhoeddi y flwyddyn nesaf gyda tharged o werthu 7,000 o gopïau y dydd i gychwyn gan gynyddu i 15,000 dros tair blynedd. Bydd y papur ar gael mewn siopau papur newydd ac hefyd gellir ei gael drwy danysgrifio ymlaen llaw - yna bydd y papur yn talu'n nôl i'r siop sy'n dosbarthu. Ar hyn o bryd mae apêl i ymuno â Chlwb Cefnogwyr Y BYD. Bydd ymuno â'r Clwb am £25 yn eich galluogi i dderbyn y flwyddyn gyntaf fydd yn wrth mwy na phris aelodaeth y clwb. Felly os ydych am weld papur Cymraeg newydd yn datblygu yr apêl a gafwyd gan Ned Thomas oedd i gefnogi Y BYD.
|