Mae seremoni Cerdded y Ffiniau yn deillio o siarter a gyflwynwyd i bobl tref Llantrisant yn 1346 a bob saith mlynedd mae Rhyddfreinwyr y dref yn cerdded ffiniau hen Fwrdeistref Llantrisant i ddathlu eu hawliau. Daeth miloedd eleni i cymryd rhan yn y dathliadau a llwyddodd rhai cannoedd i gwblhau y daith gerdded saith milltir o Lantrisant drwy Cross Inn, draw at y Bathdy yn Ynysmaerdy, i lawr am Donysguboriau ac yn ôl i Lantrisant. Ar hyd y ffordd mae cerrig yn dynodi'r ffîn ac yn ôl y traddodiad roedd rhaid i fechgyn ifanc sy'n feibion i'r Rhyddfreinwyr presennol gael eu bympio ar eu pen-olau i'w hatgoffa am yr hawliau maent wedi eu hetifeddu. Roedd y cyntaf o'r cerrig hyn yng ngardd "Bumping Stone Cottage" yn Cross Inn.
|