Bardd o Riwfawr, Cwmtawe a enillodd gadair y Wladfa, Patagonia eleni. Ysgrifennodd Graham Williams gerdd ar y testun Egin. Seiliwyd cynnwys y gerdd ar ddatblygiad Undodiaeth yng Nghymru. Mae'n gyfarwydd iawn â'r testun gan ei fod wedi ymchwilio i'r hanes ac wedi cyflwyno darlith arni o dan nawdd yr Academi Gymreig. Yn y gerdd mae'n ceisio dal naws y gwrthdaro a fu yng Nghymru rhwng yr Undodiaid a'r Meistri Tir. Undodwr amlwg oedd Gwilym Marles, gor-ewythr Dylan Thomas ac mae Cefnfab yn datgelu sut y gwnaeth hyn ddylanwadu ar y bardd hwn o Abertawe.
Yn ei ddarlithiau mae Graham yn trosglwyddo ffeithiau trwy sleidiau lliw gan gyflwyno Iolo Morganwg mewn golau newydd.
Yn anffodus, methodd Graham â bod yn bresennol i'r cadeirio ond 'cadeiriwyd' Elvey Macdonald yn ei le. Trefnir bod y gadair yn cael ei chludo yn ôl i Riwfawr lle caiff le parchus ymysg y 60 a mwy o gadeiriau eisteddfodol sydd ganddo eisoes.
Mae'n fwriad gan y bardd toreithiog godi caban yn ei ardd i gartrefu'r casgliad anhygoel o wobrau eisteddfodol a'i dair coron.
Llongyfarchiadau mawr, Cefnfab!
|