Yn ystod y gaeaf, dwr dwfn allan yn y môr mawr yw cynefin y cranc ond nid felly unwaith y bydd y tywydd wedi twymo. Daw'r crancod i'r dwr bas er mwyn ceisio lloches gan eu bod yn ystod misoedd yr haf yn bwrw eu cragen sawl gwaith ac oherwydd hyn yn gallu bod yn bryd o fwyd i greaduriaid eraill megis pysgod ac adar.
Ceisio lloches mewn cilfachau Daw'r "buchesau" i'r dwr bas i geisio lloches er mwyn diogelu'r wyau, tra bo'r "teirw" yn dod i'r dwr bas er mwyn ceisio cymar ac i fagu.
Canlyniad anochel y symud yma yw fod rhai crancod yn treulio wythnosau mewn cilfachau yn hollol ddibynnol ar y llanw a thrai am luniaeth i'w cynnal.
Ar Benrhyn Gwyr ceir nifer o gilfachau sydd wedi eu naddu gan y môr dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Gelwir y cilfachau yma ar lafar gwlad yn scarras a huvvers.
Scarras yw'r cilfachau hynny a ffurfiwyd rhwng dwy lefel o galchfaen sydd yn bresennol mewn creigiau sydd yn gorwedd rhwng lefel llanw uchel a lefel y trai. Huvvers yw'r cilfachau hynny sydd yn ffurfio pyllau, ac sydd fel arfer yn cael eu diogelu gan ddarn o graig sydd yn taflu dros y pwll (overhanging ledge).
Pysgota crancod Canlyniad anffodus y symudiad yma i'r crancod yw eu bod yn cael eu pysgota gan ddynion.
Ar hyd arfordir Cymru mae sawl cymuned arfordirol wedi bod yn ddibynnol ar bysgota cranc a chimychiaid. Erbyn heddiw mae'n arferol gweld cewyll wedi eu gosod yn bwrpasol ar gyfer dal y crancod a'r cimychiaid.
Ond nid felly y bu pethau yn y gorffennol. 'Roedd hi'n draddodiad pysgota am granc gyda llaw. Roedd y math yma o bysgota yn gofyn am fedrusrwydd a dyfeisgarwch ynghyd â gwybodaeth drylwyr o'r llanw, y tywydd a'r creigiau.
Byddai mwyafrif y pysgotwyr yn defnyddio'u dwylo i dynnu cranc allan o'r cilfachau ond weithiau byddai angen cymorth "bachyn" i'w tynnu allan.
Darn o fetel siâp cryman wedi ei osod ar ben polyn pren oedd y "bachyn". 'Roedd siâp y bachyn yn sicrhau bod cranc yn cael ei dynnu allan o gilfachau anodd.
Dirywiad mewn pysgota Hanner canrif yn ôl byddai pysgotwyr yn gallu dal tua deugain cranc ac ambell i gimwch mewn un helfa. Ond heddiw, yn ôl y sôn, nid yw'r pysgota mor llewyrchus ag y bu. Llygredd a gor-bysgota sydd yn cael y bai am y dirywiad.
Flynyddoedd yn ôl 'roedd gan y pysgotwyr reolau a chod manwl ynghylch pwy oedd â'r hawl i bysgota pa ardal. Wrth gwrs caed sawl stori ar lafar gwlad am bysgotwyr eraill yn potsio a cheir sawl stori gelwydd golau am orchestion rhai o'r pysgotwyr. 'Roedd hyn i gyd siwr o fod yn ychwanegu at ramant y diwydiant answyddogol.
Yn debyg iawn i ardaloedd arfordirol Gwyr bu Ynys Enlli yn ddibynnol iawn ar y môr am gynhaliaeth a bu pysgota crancod a chimychiaid yn elfen bwysig o'i bodolaeth yn ystod misoedd yr haf. Ar Ynys Enlli roedd gan wahanol bysgotwyr ardaloedd penodol i'w pysgota ac fe esgorodd yr arferiad hwnnw ar enwau priodol ar dyllau crancod ar yr ynys.
Enwau lliwgar Rhestrwyd enwau'r tyllau crancod gan Myrddin Fardd ac mae blas barddonol yr enwau yn rhoi syniad byw inni o'r math o ardaloedd yr oedd y pysgotwyr yma yn ceisio dal crancod ynddyn nhw.
Dyma felly flas ar rai o'r enwau yma: Twll llaw chwith, Twll ar ei ben, Twll tan y gwely, Twll cyfyng, Twll y crochan, Twll Twm, Tyllau Richard Hughes, Twll ogo' Barcud, Twll pen gwr, Twll ynys bach, Twll tan y fargod.
Felly os am fentro i'r arfordir yn ystod misoedd yr haf cofiwch am y cranc a'r diwydiant pysgota sydd erbyn heddiw bron yn angof, ond gofalwch gadw eich bysedd draw o'u crafangau os am fentro eu dal.
Erthygl gan Dewi Lewis
|