91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Craig Duggan Swyddog Iaith newydd i Bowys
Mehefin 2004
Ddechrau mis Ebrill fe gychwynnodd Craig Duggan yn ei swydd newydd fel Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Sir Powys.
Yma mae'n cyflwyno'i hun i ddarllenwyr Llais ac yn sôn am ei argraffiadau cynnar yn ei swydd newydd, a'r hyn y mae'n gobeithio'i gyflawni.

Profiad cyffrous a chynhyrfus oedd dechrau'r swydd newydd a symud i fyw o'r dref i'r wlad. Gadael teulu a ffrindiau yng nghymoedd y de a mynd i aros gyda rhieni fy mhartner ym Maldwyn. Y plant yn newid ysgol, a Dad yn newid swyddfa.

Mae dechrau swydd newydd yn debyg i fynd yn ôl i'ch diwrnod cyntaf yn yr ysgol - dy'ch chi ddim yn gwybod pwy yw pwy, ac yn dibynnu ar eich ffrindiau newydd i ddangos y llefydd pwysig i chi, fel y peiriant coffi a'r tŷ^ bach agosaf.

Roedd dechrau gwaith gyda Chyngor Sir Powys yn arbennig o ryfedd oherwydd yr iaith newydd yr oedd yn rhaid ei dysgu. Dwi ddim yn sôn am acen siaradwyr y canolbarth, ond yn hytrach y 'jargon' sy'n gyffredin, mae'n debyg, i bob cyngor sir. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi dechrau dod yn fwyfwy cyfarwydd a chynlluniau rheoli perfformiad, polisïau 'traws-adrannol' a dulliau o ryngwynebu â'r cyhoedd.

Os yw'r 'jargon' yn niwlog, rwy'n gweld fy ngwaith i yn ddigon clir. Rwyf am sicrhau fod y cyngor yn darparu mwy a mwy o'i wasanaethau yn ddwyieithog, a bod mwy a mwy o Gymry Cymraeg y sir yn ei defnyddio.

Mae ein Cynllun Iaith ni yn ymrwymo'r cyngor i barhau i ddatblygu gwasanaeth cyson ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae na sawl ffordd y gallwch chi Gymry Cymraeg wneud defnydd o'r o'r gwasanaethau hynny trwy lenwi ffurflenni yn Gymraeg, trwy lythyru / e-bostio yn Gymraeg a thrwy ofyn am siaradwr Cymraeg wrth ffonio swyddfeydd y cyngor.

Ar hyn o bryd, mae yna adrannau o fewn y cyngor lle nad oes yna ddigon o staff sy'n siarad Cymraeg. Mae ymdrechion ar y gweill i newid hyn trwy wersi yn y gweithle.

Ond hefyd, mae'r cyngor yn awyddus i benodi mwy o Gymry Cymraeg. Byddai hynny'n ein helpu ni i ddatblygu ein gwasanaethau a chynnig rhagor trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sgiliau ieithyddol yn werthfawr iawn, ac mae yna gyfle i siaradwyr Cymraeg gael gyrfa gyda'r cyngor, gweithio'n ddwyieithog a helpu gwasanaethu'r 21% o bobl y sir sydd yn siaradwyr Cymraeg.

Yn ogystal â dechrau swydd newydd rydw i wedi dechrau ar fath o fywyd newydd yma ym Mhowys. Ers symud o Bontypridd i Lanbrynmair rwyf wedi troi'n gymudwr go iawn - yn fy swydd flaenorol, ugain munud oedd y daith i ystafell newyddion 91Èȱ¬ Cymru yng Nghaerdydd. Nawr rwy'n gyrru am awr a newid tonfedd radio dwsin o weithiau trwy Faldwyn a Maesyfed cyn cyrraedd Llandrindod.

Fe benderfynais newid gyrfa er mwyn cael her newydd - fe fydd hi'n her yn sicr yn y swydd newydd. Ond, ar ôl cael croeso cynnes gan staff uned Gymraeg y sir, rwy'n mwynhau ac yn edrych ymlaen at y blynyddoedd sydd i ddod.

Nod y sir yw parhau i ddatblygu gwasanaeth Cymraeg o ansawdd da i'r cyhoedd - ond os nad ydych yn fodlon gydag unrhyw agwedd o'n darpariaeth Gymraeg mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Dyma fy manylion cyswllt i- craig.duggan@powvs.gov.uk , a'r rhif ffon 01597 826467.

Craig Duggan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý