Archesgob yn prynu llun Hydref 2008 Mewn arwerthiant i godi arian i elusen, fe brynodd Archesgob Cymru lun gan artist o Bontardawe.
Yn yr arwerthiant celf blynyddol a gynhaliwyd yng ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ddiwedd Medi gwerthwyd darluniau gan arlunwyr cyfoes Cymru er budd Shelter Cymru.
Ymhlith y gwaith celf roedd darlun 'Y Colier' gan Meic Jones, Pontardawe.
Y prynwyr oedd neb llai, na'r Parchedig Barry Morgan, Archesgob Cymru, sy'n edmygwr mawr o'r arlunydd.
Bydd y darlun yn cael lle parchus yn ei 'balas' yng Nghaerdydd.