Mae'r Eglwys ac yn wir, Eglwysi y Cylch yn gyfan wedi bod yn rhan o'r dathlu sydd wedi cymryd lle yn ystod y flwyddyn ar ei hyd. Ond daeth y dathlu i'w uchafbwynt yn yr "Wythnos Fawr" a ymestynnodd o ddydd Sadwrn Medi 9, pan gynhaliwyd Cyngerdd yn y Capel. Cafodd y gynulleidfa fwynhad a phleser o gy¬franiad Cor Meibion Ystradgynlais, Eirian Davies a hefyd y 'South Wales Tubas'.
Y Parchedig Mostyn Williams a fu'n pregethu y dydd Sul canlynol, ac yn bwrpasol i'r dathlu ar Salm 84 "Gwyn fyd preswylwyr dy dÅ·. Ar Fedi 11 yr oedd dydd penodol y dathlu, y pen blwydd swyddogol am mai dyma'r dydd yr agorwyd y capel cyntaf yng Nghwmgiedd, ac yn wir yr ardal, yn 1806. Y Parchedig D. Leslie Jones oedd Llywydd y Gwasanaeth dathlu, a daeth torf fawr ynghyd yn Yorath am 6 o'r gloch i'r gwasanaeth.
Cafwyd cyfraniad gan blant a phobl ifanc y capel drwy'r gwasanaeth gyfan, a derbyniwyd cyfarchion cynnes oddi wrth Eglwysi y Cylch. Ar ôl y gwasanaeth, cafwyd te parti yn y festri a pharhaodd y sgwrsio hyd 9 o'r gloch y nos. Mwynheuwyd y gwmnïaeth gynnes a'r hel atgofion. Cafwyd cyfres o gyrddau pregethu gan Parchedig Cynwil Williams i gloi y dathlu ar ddydd Mercher a dydd Iau Medi 13 a 14.
Dymuna Swyddogion Eglwys Yorath ddiolch i aelodau yr Eglwys ac Eglwysi y Cylch a fu mor gefnogol i bob ymdrech a wnaed drwy gydol y flwyddyn, a hefyd i bob oedfa.
Ysgrifennwyd llyfr ar hanes yr achos yng Nghwmgiedd a'r Cylch gan John Williams. Mae'r llyfr Cynnau'r Fflam yn cofnodi yr hanes cynnar pan ddaeth Hywel Harris i sefydlu Seiadau yn yr ardal, a hefyd prif ddigwyddiadau y cyfnodau yn dilyn. Mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn iaith ac arddull ddealladwy, a braf yw hefyd cael brasluniau o enwogion Yorath a'r Cylch, yn cynnwys Tomos Levi, Daniel Protheroe, J. T. Rees a Gwilym ap Leyshon. Mae'r llyfr ar gael o'r Capel ac hefyd yn Swyddfa'r Post Cwmgiedd am £4. 75.
Ar ddechrau ei thrydedd canrif o addoli dymuna'r Eglwys yn Yorath estyn croeso cynnes i unrhyw un a ddymuna droi i mewn i fod yn rhan ym mhennod nesaf ei hanes.
|