Roedd y band ar ei orau, ac yn wir cafwyd noson ganddynt fydd yn aros yn y cof am amser hir i ddod. Darparwyd rhaglen o gerddoriaeth amrywiol a diddorol gan y band gyda phob datganiad yn cael ei berfformio yn feis¬trolgar iawn.
Cyflwynwyd y cyfansoddiadau gan Mr Hywel Williams a gwnaethpwyd hynny yn ei ffordd ddihafal ei hun. Yn cadw trefn ar y cyfan oll oedd Miss Erica Lloyd, B.A., ac yn sicr iawn roedd ei dawn a'i brwdfrydedd wedi tynnu'r gorau allan o'r Band.
Dyledus ydym hefyd i Naomi Jenkins ac Emyr Myers am eu cyfraniadau hwythau at lwyddiant y gyngerdd. Mae Naomi ac Emyr wedi eu bendithio'n helaeth iawn â dawn gerddorol arbennig iawn. Diolch am eu parodrwydd i'n cy¬northwyo yn y Wern, mae'n bob amser yn bleser cael gwrando arnynt.
Yn cyfeilio iddynt yn naturiol iawn oedd eu hathro Mr Douglas Roberts, B.A., ac afraid yw dweud bod ei gyfraniad yntau wedi cyfrannu'n wirioneddol at y boddhad a'r pleser a gafodd pawb oedd yn bresennol. Gair o ddiolch am y gwobrwyon gwerthfawr a gyfrannwyd a'r teisennod a'r brechdanau a baratowyd gan ffrindiau care¬dig. Melys iawn oedd y cymdeithasu o gwmpas y byrddau wedi'r gyngerdd ddod i ben gyda Chwiorydd y Wern yn gweini'n siriol yn ôl eu harfer. Diolch hefyd i Ysgol Gyfun Ystalyfera am gael defnyddio'r adnoddau at ein bwriad.
Yn sicr iawn fe gawsom fel capel ein calonogi'n fawr iawn gan y gynulleidfa hardd oedd yn llanw'r neuadd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, da yw cael dweud, at i gilydd i'r noson fod yn fodd i ni wneud elw o £500 ond llawn mor bwysig â hynny oedd y ffaith ein bod wedi cael noson fendigedig yng nghwmni ein gilydd.
|