Rhaid cofio mai mynach oedd Dewi yn byw yn ôl yn y chweched ganrif. Bywyd syml o hunanddisgyblaeth oedd hanfod ei fywyd - yn byw ar fara a llysiau, gan yfed dŵr fe'i disgrifiwyd fel Aquacitus-Dyfrwr. Roedd yn genhadwr ac mae'n debyg y bu iddo deithio drwy wledydd Celtaidd, heblaw Cymru, megis Llydaw ac Iwerddon. Ond ei brif weithgarwch oedd yn ardal ei febyd yng Ngorllewin Cymru - Ceredigion a Dyfed tu fewn i'r triongl gan gynnwys Mynyw (Tŷddewi), Hen Fynyw (gerllaw Aberaeron) a Llanddewi Brefi. Sylfaenodd ei brif eglwys yn Nhŷddewi yng Nglyn Rhosyn ac yma bu'n abad-esgob. Roedd Teilo a Phadarn yn perthyn i'r un cylch gorllewinol hwn. Roedd yna draddodiad ei fod o dras brenhinol neu o leiaf o dras pendefigaidd, a chafodd ei ddysg gan Peulin (Paulinus). Bu sôn am Ddewi mewn synod yn Llanddewi Brefi. Mae'n anodd dod o hyd i ffeithiau hanesyddol am fywyd Dewi oherwydd fe'i gorliwiwyd 5 mesur helaeth o chwedloniaeth e.e. y codiad tir yn Llanddewi Brefi pan fu'n pregethu yn y synod a cholomen wen yn disgyn ar ei ysgwydd. Mae'n debyg bod hyn yn tystio i'w huodledd. Y mae'r gor-ddweud hwn yn hollol nodweddiadol o'r traddodiad a geir ym Mucheddau'r Saint. Fe sgrifennwyd Buchedd Ddewi tua diwedd y 11eg neu 12fed ganrif gan Rhigyfarch, un o feibion Sulian Ddoeth, a oedd yn Esgob Tŷddewi (11eg ganrif). Ymgais a gafwyd fan hyn am ddadl dros annibyniaeth Esgobion Cymru oddi wrth Archesgob Caergaint, felly yn adlewyrchu brwydrau diweddarach ac yn wir gydag ychydig o berthynas; bywyd Dewi ei hun. Mae hyn yn dangos yn eglur fel y mae holl gwltws Dewi yn ymblethu yn hanes diweddaraf Cymru. Fodd bynnag, dywed Rhigyfarch am Ddewi yn pregethu ei neges olaf "Frodyr a Chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch a welsoch gennyf fi." Dyma genhadwri sydd mor berthnasol i'n dyddiau cythryblus ni heddiw â'r oesau y llefarwyd hwy dros bedair canrif ar ddeg yn ôl. Charles Eurwyn Jones - Nottingham
|