91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Draenog Difa er mwyn diogelu?
Mehefin 2003
Yn ddiweddar bu dadleuon brwd yn rhygnu ymlaen ynglyn â diogelu cynefin a rhywogaethau brodorol.
Y ddadl yw fod rhywogaethau sydd wedi eu cyflwyno i'r wlad hon yn effeithio ar, ac yn difetha ecoleg cynhenid. Ar yr un adeg bu galw am ddiwygio'r ddeddf sydd yn diogelu bywyd gwyllt a chefn gwlad am fod rhai rhannau o'r ddeddf yn niweidiol i greaduriaid brodorol.

Un dull dadleuol o reoli poblogaeth creaduriaid gwyllt yw cwlino neu ddidoli (cull). Ar y gorau mae'r dull yma yn gallu bod yn ddadleuol gan ei fod yn golygu lladd creaduriaid yn fwriadol. Y ddadl o blaid y dull yma, yw ei fod yn fodd o reoli twf rhywogaeth yn effeithiol a bod y dull o ladd yn ddull trugarog.

Y rheswm pennaf tros gwlino yw er mwyn diogelu ecoleg ardal neu fodolaeth rhywogaeth arall. Rhaid dweud fod barn tanllyd o blaid ac yn erbyn y math yma o reoli bywyd gwyllt. Yr hyn sydd yn rhyfeddu pobl yw'r ffaith bod cyrff cadwraethol mewn rhai ardaloedd yn fodlon defnyddio'r dull yma yn enw cadwraeth. Tipyn o wrth ddweud, ond safbwynt sydd yn gwneud synnwyr yn nhermau cadwraeth ac ecoleg.

Ymysg y rhywogaethau sydd am eu targedu yn y dyfodol agos, mae'r hwyaden goch, y draenog a'r minc. Bernir bod y tri rhywogaeth yma yn peri perygl gwirioneddol i rywogaethau eraill. Creadur wedi ei fewnforio yw'r minc a bu adeg pan roeddynt yn cael eu ffermio ar gyfer eu ffwr. Dros y blynyddoedd llwyddodd nifer o'r minc i ddianc o'r ffermydd neu gael eu ryddhau i gefn gwlad. Trwy reddf mae'r minc yn greadur ffyrnig ac yn fodlon ymosod ar nifer o greaduriaid eraill. Y pryder mwyaf yw ei effaith ar adar y dwr gan ei fod, nid yn unig yn ymosod ar yr adar ond hefyd yn bwyta'r wyau.

Yn wahanol i'r minc mae'r draenog yn greadur diniwed a golygfa drist yw eu gweld wedi eu lladd ar hyd ffyrdd ein gwlad. Ond nid dyna yw y stori ar ynysoedd gorllewinol yr Alban. Rhai blynyddoedd yn ôl mewnforiwyd y draenog i'r ynysoedd a bu'n byw yn hollol gytun yno. Yn ddiweddar sylweddolwyd bod y draenog wedi datblygu hoffter o wyau adar ac o ganlyniad yn creu bygythiad i adar prin sydd yn nythu ar yr ynysoedd. Bu galw felly am gwlino'r creadur diniwed er mwyn diogelu poblogaeth yr adar.

Yr hyn y mae'r ddadl o blaid cwlino wedi ei wneud yw adfywio'r ddadl ynglyn â safle rhai adar ar restr cwlino cyffreithlon. Yn ôl rhestr deddf Diogelu Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mae'n hollol gyfreithiol i ddifa a lladd ydfrain, drudwy ac adar y to a hynny er mwyn diogelu cnydau. Dadl rhai yw fod yr ydfran erbyn hyn wedi peidio a bod yn aderyn tir amaethyddol a'i bod yn amlach na pheidio i'w gweld ar bwys traffyrdd yn chwilio am fwyd gan fod y defnydd o bla laddwyr wedi difa ei bwyd naturiol.

Mae'n wybyddus bod niferoedd drudwy ac adar to wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ond mae'r ddau rywogaeth yma yn parhau ar y rhestr o greaduriaid y gellir eu cwlino. Bu galw felly i ddiwygio'r ddeddf ac i dynnu enwau'r adar yma oddi ar y rhestr.

Mae'n debyg mai'r stori mwyaf anhygoel ynglyn â chwlino yw honno a adroddwyd ar raglen Today ar Radio 4 ar Ebrill y cyntaf eleni. Cyfeiriodd y stori at un Mrs Lesley McKingham a'i chrwsâd bersonol yn erbyn y bioden. Cyfeiriwyd at y ffaith bod Mrs McKingham wedi difa 100 o biod er mwyn rheoli'r boblogaeth lleol. Dim byd yn od yn hyn o beth. Ond y rhyfeddod yw fod Mrs McKingham wedi difa'r adar tra roedd ar ei gwyliau! Yr hyn yr oedd yn ei wneud oedd mynd â thrapiau gyda hi ar ei gwyliau ac yn treulio'i dyddiau yn dal ac yn difa'r adar. Bu hyn yn achos pryder mawr gan y gallai esgor ar heidiau o dwristiaid yn mynd ar wyliau er mwyn lladd a difa byd natur. Fel y gallwch weld mae hi'n amser dyrys ym myd cadwraeth yn enwedig os i chi fod yn bioden neu yn ddraenog!

Dewi Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý