91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
To pafiliwn Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Mehefin 2005
Gyda 15 mis yn unig i fynd, mae trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, fydd yn cael ei chynnal ar safle hen waith tun Felindre rhwng Awst 5ed - 12fed, 2006 wedi codi stêm.

Yn unol â thraddodiad y Brifwyl, bwriedir cyhoeddi dyfodiad yr Eisteddfod o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn yr ŵyl, ac felly cynhelir y Seremoni Cyhoeddi yn Ninas Abertawe ar ddydd Sadwrn, 25 Mehefin, 2005.

Ceir rhagflas pan fydd Gorsedd y Beirdd, ynghyd â chynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau yr ardal, yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas ac yn cynnal Seremoni Cyhoeddi'r Eisteddfod yng nghylch yr Orsedd ym Mharc Singleton am 3 o'r gloch. Gorymdeithwyr i gwrdd wrth Theatr y Grand am 1.15p.m.

Yn ystod wythnos y cyhoeddi mae gwledd o adloniant wedi ei drefnu gan gychwyn ar nos Sadwrn, Mehefin 18 gyda Chyngerdd Mawreddog yn Neuadd y Brangwyn ac yn gorffen gyda'r Gymanfa Ganu traddodiadol yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe am 7.30 o'r gloch.

Pwyllgorau Apêl
Mae codi arian yn orchwyl di-ddiolch yn aml ond mae'n rhan hanfodol o'r Eisteddfod. Costau Eisteddfod Abertawe a'r Cylch 2006 yw £2.7 miliwn. Daw cefnogaeth ariannol oddi wrth lywodraeth lleol, nawdd, hawliau darlledu a grantiau. Yn ychwanegol mae yna gyfrifoldeb ar drigolion yr ardal gyfrannu tuag at y costau. Nod y pwyllgorau apêl leol yw £270,000. Eisoes mae'n cymunedau lleol wedi codi £100,000, sef ychydig o dros drydydd y swm. Bydd angen codi stem yn ystod y flwyddyn nesaf i gyrraedd y nod.

Côr yr Eisteddfod
Un o uchafbwyntiau unrhyw Eisteddfod, wrth gwrs, yw sefydlu Côr yr Eisteddfod. Mae ymuno â'r Côr yn brofiad bythgofiadwy - mae'n gyfle i gael perfformio ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod gydag unawdwyr byd enwog a cherddorfa broffesiynol.

Bydd croeso i bawb, yn gantorion profiadol neu yn gantorion newydd sbon, i ymuno.Os hoffech ymuno â'r Côr, yna cysylltwch Heulwen yn Swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Rhif ffôn: 029 20 763 777.

Llety
Bob blwyddyn, mae'r Eisteddfod yn denu tua 170,00 o ymwelwyr. Tra bo rhai'n teithio o'u cartref bob diwrnod, neu'n aros ar faes carafannau'r Eisteddfod, mae nifer fawr yn aros mewn cartrefi preifat yn yr ardal, rhai am yr wythnos gyfan, eraill am ddiwrnod neu ddau. Mi fydd y gwesteion wrth gwrs yn talu cydnabyddiaeth briodol.

Os oes gennych ystafell neu ddwy'n wag ac yn barod i gynnig llety, yna cysylltwch â Sioned yn Swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Rhif ffon 029 20 763 777.

Digwyddiadau Wythnos y Cyhoeddi
Nos Sadwrn, Mehefin 18, 2005
Cyngerdd y Cyhoeddi yn Neuadd y Brangwyn gyda; Shan Cothi, Côr Meibion Pontarddulais, Band Pres; Penclawdd ac Abigail Sara. 7.00pm
Tocynnau: £8 £10, £12 ar gael trwy ffonio 01792 475 715.

Nos Fawrth, Mehefin 21, 2005
Noson yng nghwmni Hywel Teifi Edwards yn sôn am hanes Eisteddfodau ardal Abertawe a'r cylch. 8.00pm
Tocynnau: £5 yn cynnwys Caws a Gwin - ar gaei o Tŷ Tawe.

Nos Fercher, Mehefin 22, 2005
Noson o adloniant a drama gan Gwmni Drama'r Gwter Fawr, yn cynnwys "Salon Sal" gan Nans Pritchard yn Aelwyn Amanw, Brynaman.

Nos Iau, Mehefin 23, 2005
Talwrn y Beirdd yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais 7.30pm

Prynhawn Sadwrn, Mehefin 25, 2005
Gŵyl y Cyhoeddi. Gorymdeithio o'r Grand am 1.15 prynhawn i gyrraedd Cylch yr Orsedd ym Mharc Singleton erbyn 3 o'r gloch.

Nos Sadwrn, Mehefin 25, 2005
Gig y Cyhoeddi, TÅ· Tawe, Abertawe gyda Frizbee ac Alun Tan Lan.
Tocynnau: £5.

Nos Sul, Mehefin 26, 2005
Cymanfa Ganu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe am 7.30pm
Tocynnau: £4 o Dŷ Tawe.
Rhif ffôn: 01792 460906.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý