Er 'mod i'n byw ar waelod y Cwm erbyn hyn ac yn gweithio y tu allan iddi ers blynyddoedd bellach, merch Cwm Tawe ydw i ac ymfalchiaf yn yr hawl i gyhoeddi hynny bob tro y byddaf yn cwrdd â phobl am y tro cyntaf. Ymfalchiaf yn ei hanes, ei thafodiaith, ei chymeriadau, ei harddwch a'r holl bethau amhrisiadwy hynny a gefais o gael fy nghodi a'm magu yma. Does dim byd gwell na sefyll ar ben Mynydd Alltygrug boed aeaf neu haf a rhyfeddu ar ehangder yr olygfa: syllu i'r chwith, heibio'r hen 'ca' Ffair ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, i fyny hyd at y Cribarth ac ysgwydd Fan Gihirych. Yna troi'r llygad i'r dde a dilyn gwely'r afon hyd y gwastadoedd i borthladd Abertawe a rhyw hances boced o fôr yn sgleinio yn y pellter.
Ac yn ystod y misoedd dwetha, rw i wedi dod i fwynhau pleserau eraill y Cwm - na, nid tafarn neu fwyty newydd - rhywbeth llawer iachach! Hen gamlas Cwm Tawe! Fel llawer i ddarllenydd y Llais rwy'n siwr, daeth cyfnod pan roedd rhaid cyfaddef nad oedd dyn mor 'ffit' ag y bu a bod angen ychydig mwy o ymarfer corfforol! Dyma ddechrau rhedeg! Ddim yn ofnadwy o gyflym cofiwch - na chwaith paratoi am ryw 'farathon' chwyslyd! Na, rhyw loncian hamddenol fyddai'r disgrifiad gorau! Ond rhaid peidio gorwneud y pethe 'ma nac oes - felly dyma yrru i Barc Coed Gwilym a rhedeg i fyny ochr y gamlas!
A dyna wir gyfle i fwynhau natur y Cwm! Ac rwy'n credu mai'r golygfeydd hynny sydd wedi fy nghadw i'n rhedeg bob penwythnos ers mis Awst - rw i wedi rhoi'r ffidl yn y to sawl gwaith o'r blaen ac wedi rhoi'r gorau i undonedd campfa Llandarcy ers misoedd! Ond mae hwn yn wahanol. Mae rhywbeth newydd i ryfeddu ato bob wythnos bron. Ac mae bywyd gwyllt yr ardal yn gwmni da! Yr hwyaid yn plymio i'r dyfnderoedd neu'n torheulio'n braf ar y lan, ieir bach yr hesg yn brasgamu i guddio wrth glywed swn yn agosau - ond rhaid gochel rhag y gwyddau yn Nhrebanws!
Mae'r coed bwaog yn ddigon o ryfeddod ac mae newid y tymhorau'n ychwanegu rhwydwaith anghredadwy o liwiau i ryfeddu dyn. Ac un bore Sadwrn ffres a rhewllyd ar ddiwedd Tachwedd fe'm gwobrwywyd am wthio fy hun allan o gynhesrwydd clud y ty i awyr miniog y bore gwyn a'r ddaear yn crensian dan draed. Wrth redeg i fyny tua Phontardawe dyma fflach glas trydanol yn taro'r dwr ac i fyny eto mewn eiliad i igam-ogami ei adennydd chwim i lanio ar goeden cyfagos - ei frest pinc cynnes yn drawiadol yn erbyn glaswyrdd ei adennydd melfed - Glas-y-Dorlan ar ei helfa foreol!
Cymaint mwy mae dyn yn gwerthfawrogi'r pethau syml hyn pan, wrth ddychwelyd adre yn llawn egni a rhyfeddod, mae'r newyddion yn cyhoeddi dinistr diweddara' dyn - y bomio ym Mumbai, neu'r hen Bombay. Profiad digon rhyfedd i mi oedd gweld y gyflafan yn digwydd ar risiau cyfarwydd Gwesty'r Oberoi - bûm yn aros yno rhai blynyddoedd yn ôl ar ddechrau taith fythgofiadwy i'r India. Un peth a'm trawodd am Mumbai y cyfnod hwnnw oedd pa mor ddiogel a deimlais yno. Cofiaf gerdded y strydoedd orlawn - o ddynion gan fwyaf - a theimlo'n gartrefol braf. Pobl hynaws, caredig ac agored oedd fy mhrofiad i, rhaid dweud.
Ac yn rhyfedd, mae cyswllt gyda rhedeg y gamlas hefyd oherwydd un o'r pethau a gofiaf am deithio o gwmpas India oedd gweld yn gyson ddwy neu dair Glas-y-Dorlan ar wifrau trydan trefi a phentrefi drwyddi draw - aderyn nas welais yn fyw o'r blaen!
Mae'r afon a'r gamlas a lygrwyd gan ddyn bellach yn llifo'n lân - dychwelodd Glas-y-Dorlan arwydd bod natur yn gallu adfer ei hun ond i ddyn rhoi llonydd iddo. Tybed all ein hen fyd ni adfer ei hun hefyd neu ydy dinistr dyn y tro hwn y tu hwnt i achubiaeth?
Mae America wedi cymryd cam enfawr i'r dyfodol gan wireddu breuddwyd 60au Martin Luther King ac ethol Barack Obama yn Arlywydd. "We have the capacity to change" yw'r anthem - mae'r alaw yn felys a chymaint yn barod i ymuno yn y gytgan - yng nghanol anobaith, mae ffydd newydd bod newid yn bosib. Yn y tymor hwn o wyrthiau - gadewch i ninnau ymuno yn y weddi y daw gwawr newydd - ac y bydd ymyrraeth un dyn yn gallu adfer heddwch a goddefgarwch. Wel, mae'n adeg y Nadolig wedi'r cyfan.