Ar ddechrau'r mis cafwyd efallai y cyfnod oeraf o'r Gaeaf gyda rhew bron bob nos am gyfnod o bythefnos. Yna yn ystod y drydedd wythnos fe ddechreuodd y tywydd dwymo gydag arwyddion bod y Gwanwyn ar y trothwy. Nodwedd arall yn ystod y drydedd wythnos oedd y niwl a'r glaw di baid am bedwar diwrnod. Y glaw yma fu'n gyfrifol am ddenu'r ymwelwyr. Na, nid ymwelwyr i ddod i fwynhau golygfeydd a thraethau ein gwlad ond yn hytrach ymwelwyr o'r math amffibaidd sef llyffaint du (common toad). Dyma'r union math o dywydd sydd yn mynd i ddeffro'r llyffaint duon o'u gaeafgwsg sef tywydd gwlyb a llaith. Sylweddolais bod rywbeth ar droed wrth i mi yrru'r car ar hyd Ffordd Capel am tua wyth o'r gloch y nos. Sawl gwaith ar hyd y ffordd sylwais ar lyffaint duon yn ymlwybro ar hyd wyneb y ffordd yng ngoleuni'r car. Mae croesi ffyrdd o dragwyddol berygl i lyffaint duon ac mae rhai cannoedd ohonynt yn cael eu lladd yn flynyddol ar ein ffyrdd wrth iddynt ddychwelyd i, bwll neu lyn traddodiadol i fagu. Golyga'r reddf yma i fagu, daith o hyd at ddwy filltir i rai llyffaint sydd yn golygu croesi sawl ffordd beryglus. Mewn rhai ardaloedd bu'n rhaid gosod arwyddion ffyrdd pwrpasol i rybuddio gyrwyr o bresenoldeb (lyffaint duon yn mudo. Wedi mi roi'r car yn y garej fe ddaeth yn amlwg bod y llyffaint yn symud fel petal yn un fintai. Rhwng y garej a'r tŷ deuthum ar draws tri o lyffaint duon ar y lawnt. Yno roedd dwy fenyw ac un gwryw. Roedd y gwryw wedi dringo ar gefn un o'r benywod gan gloi y coesau blaen yn dynn o gwmpas ei gwddf. Roedd y fenyw arall yn gorffwys gerllaw. Wrth i'r llyffaint symud tuag at eu pyllau neu lynnoedd traddodiadol mae'n arferol i'r gwryw ddringo ar gefn benyw a gelwir hyn yn amplexus. Bydd y gwryw yn aros ar gefn y fenyw hyd nes iddi ryddhau y wyau o'i chorff ac fe fydd yntau yn eu ffrwythloni gyda'i semen. Ar rai adegau ceir sawl gwryw yn ymladd am yr un fenyw (tebyg iawn i'r hil ddynol) ac o ganlyniad fe fydd y fenyw yn cael ei niweidio neu hyd yn oed ei boddi yn y dŵr. Bydd y broses o ryddhau'r wyau yn cymryd tua deg awr ac mewn rhai achosion hyd at ddiwrnod cyfan. Mewn rhai safleoedd traddodiadol cofnodwyd rhai llyffaint yn dodwy hyd at 12,000 o wyau. Fe gymerir tua deg diwrnod i'r wyau ddeor cyn bod y penbwl yn rhyddhau ei hun o'r sach jeli sydd wedi ei amgylchynu. Tua deuddeg wythnos yn ddiweddarach fe fydd y llyffaint yn ddigon aeddfed i adael y dŵr lle 'u ganed. Yn ystod Mis Gorffennaf neu Awst (yn dibynnu ar y tywydd) fe fydd y llyffaint duon yn symud mewn mintai allan o'r pyllau a llynnoedd traddodiadol gan wasgaru yn y wlad o gwmpas. Credir eu bod yn symud mewn niferoedd er mwyn diogelwch. Amcangyfrifir bod dros 90% o lyffaint duon yn marw yn ystod y flwyddyn gyntaf gydag efallai cyn lleied ag 1 % yn dychwelyd i fagu y flwyddyn ganlynol. Gellir gweld felly pa mor bwysig yw dodwy cymaint o wyau i barhad y llyffant du. Ar gyfartaledd fe fydd y benywod yn byw hyd at 9 mlynedd tra bo'r gwrywod yn byw am chwe mlynedd. Honnodd Pennant yn y ddeunawfed ganrif bod llyffant du wedi byw am 35 mlynedd o dan stepan ei ddrws. Er mwyn goroesi rhaid i'r llyffaint duon fyw ar ddeiet o bryfetach a thrychfilod. Prae byw yw eu deiet. Er mwyn dal eu prae mae'r llyffant du yn gallu ymestyn ei dafod hyd at 2 cm, ac mae'r prae yn glynnu i wyneb gludog y tafod. Pwysigrwydd mawr yw sicrhau cyflenwad digonol o fwyd yn ystod yr Hydref er mwyn gosod digon o fraster ar y corff i oroesi'r gaeaf. Tybed os fydd y tri ymwelydd a ddaeth i'n gardd ar noson niwlog wlyb ym mis Mawrth yn taro heibio yn ystod mis Gorffennaf neu Awst? Dewi Lewis
|