Cafodd ei henwebu yn haeddiannol iawn ar gyfer yr anrhydedd o gael ei hystyried yn fusnes-ferch y flwyddyn yng Nghymru.
Yn naturiol rydym am gydnabod llwyddiant Catherine a'i llongyfarch yn wresog iawn ar gyflawni camp mor nodedig. Mae Catherine yn ferch i Mr a Mrs Douglas a Mary Roberts, Ystalyfera, ac yn chwaer i Sarah. Cafodd Catherine ei haddysg gynnar yn Ysgol Gynradd y Wern, ac yna yn Ysgol Gyfun Cwmtawe. Ar ôl llwyddo yn ei harholiadau lefel 'A', enillodd Catherine gradd B.A. ym Mhrifysgol Caergaint a graddau uwch sef L.S.C. ym Mhrifysgol Grenoble yn Ffrainc ac M.B.A. ym Mhrifysgol Llundain.
Yn ychwanegol, mae Catherine wedi cyflawni cwrs rheolaeth gydag Ymddiriedolaeth Barton, sy'n ymwneud â phlant sy' wedi eu cam drin. Da yw cael cyhoeddi hefyd bod Catherine a Sarah yn gynnyrch Ysgol Sul y Wern.
Gyda'i diddordeb yn y byd Economeg, llwyddodd Catherine i gael swydd gyda Banc Barclays fel rheolwraig. Nid yw'r maes hwn yn un rhwydd i ferched, ond fel yr unig rheolwraig ymhlith tîm o reolwyr oedd yn gweithio i Barclays yn Llundain fe wnaeth Catherine argraff sylweddol iawn ar ei chyflogwyr. Gwerthfawrogwyd ei photensial gan Barclays, ac yn fuan iawn fe gafodd Catherine y cyfle i symud 'nôl i Gymru, i ddatblygu un o adrannau'r Banc sef Synergy Department First Plus.
Ymatebodd yn frwd i'r her a bellach mae Catherine a'i gŵr Philip a'u merch Hannah wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd sy'n dipyn yn fwy cyfleus i famgu a dadcu Ystalyfera i ymweld â hwy, i warchod yr un fach.
Pob dymuniad da i Catherine ar gyfer y noson fawr, pan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud, a'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddatgelu fel Busnes Ferch y Flwyddyn yng Nghymru.
|