Bu'r daith yn llwyddiant ysgubol, gyda bechgyn Ystalyfera yn ennill pob un o'r dair gêm a chwaraewyd. Roedd y gêm gyntaf ar y dydd Llun yn erbyn tîm Coleg Dubai a chafwyd buddugoliaeth weddol hawdd 36 - 0. Aeth y bechgyn ymlaen wedyn i chwarae tîm yr English College, gan eu curo 25 - 5.
Uchafbwynt y daith oedd y gêm yn erbyn Clwb Rygbi Al Ain, a'r canlyniad oedd buddugoliaeth arall i Ystalyfera 61 - 21.
Profodd blaenwyr Ysgol Gyfun Ystalyfera eu cryfder yn erbyn eu gwrthwynebwyr a dangosodd yr olwyr eu dawn h sgorio cyfanswm o 20 cais yn ystod y dair gêm.
Dychwelodd y bechgyn yn fuddugoliaethus ac wedi cael amser da - ar ac oddi ar y cae.
Rhaid diolch i hyfforddwyr rygbi a bechgyn Ysgol Gyfun Ystalyfera am holl lwyddiannau'r blynyddoedd diwethaf - dwy Bencampwriaeth Genedlaethol a dwy fuddugoliaeth yn y Super Six Cymreig.
Diolch arbennig i Mr Ioan Bebb a Mr Ian Jones am drefniadau'r daith ac i'r rhieni a fu allan yn Dubai yn cefnogi'r garfan.
|