Roedd y capel bach yn orlawn, ac fe gafwyd oedfa fendithiol a chofiadwy o dan lywyddiaeth y Parchg. Walford Llewelyn. Dechreuodd y llywydd yr oedfa, drwy alw'r gynulleidfa i addoli. Ac wedi canu emyn, gyda Mr Cyril Jones wrth yr organ, fe gymerwyd at y rhannau arweiniol, gan y ddau ddiacon. Darllenodd Mr Islwyn Jacob, Trysorydd, yr eglwys am 37 o flynyddoedd, adnodau allan o bennod 35 o broffwydoliaeth Eseia a Salm 96. Cafwyd gweddi ddwys gan Mr Islwyn Jones, Ysgrifennydd yr eglwys am 50 mlynedd.Dywedodd Mr Eifion Walters, un a fagwyd yn y Baran, air priodol ar ran yr Eglwys.Cafwyd cyfarchiad cynnes ar ran Cyfundeb Gorllewin Morgannwg, gan Mr Meirion Bell yntau hefyd â chysylltiad agos â'r Eglwys. Hyfryd oedd cael cwmni'r Parchg Robin Williams, Maesteg a ofalodd am yr achos tra yn weinidog ym Mhantycrwys, Craig-Cefn-Parc. Mynegodd ei lawenydd o fod wedi gallu dod i'r dathliad, a'i atgofion melys am ei gyfnod yno fel bugail. Y pregethwr gwadd, oedd y Parchg Gareth Morgan Jones, pregethodd yn rymus ar y testun "Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain", geiriau amserol i bob eglwys yn yr hinsawdd grefyddol bresennol. Croesawyd pawb, i'r wledd oedd wedi ei pharatoi gan y gwragedd, yn aelodau a chyfeillion yr Achos. Brat oedd gweld y dyrfa, o tua 250 yn mwynhau yn y babell ac ar y borfa o gwmpas y Capel, ar ddiwrnod digwmwl a'r awelon cynnes yn eu hanwesu. Dymuna'r Eglwys ddiolch o galon am y rhoddion hael ac am yr holl garedigrwydd a chymorth gan yr aelodau a chyfeillion yr Achos. Fe sicrhaodd hyn lwyddiant to hwnt i'r disgwyl, a'i wneud yn ddiwrnod a erys yn hir yn y cot, ac yn ddathliad teilwng o ddau can mlynedd o dystiolaeth Gristnogol ar fynydd y Baran. T. Eifion Walters
|