Rydym yn ffodus yng Nghwm Tawe bod gennym ddau safle o ddiddordeb naturiol arbennig reit ar garreg y drws. Er ein bod yn draddodiadol mewn ardal ddiwydiannol mae'r ddau safle yma yn cynrychioli byd a chynefin sydd wedi hen ddiflannu. Ffen Pant y Sais a Cors Crymlyn Y Safle cyntaf yw Ffen Pant y Sais ym Mhentrecaseg a'r ail yw Cors Crymlyn. Mae'r ddau safle yn debyg iawn i'w gilydd oherwydd fe ddatblygodd y ddau safle ar hyd hen wely yr Afon Nedd. Mae Pant y Sais yn mesur dros bedair erw ac mae'r gwahaniaeth sydd yn y traeniant ac asidigrwydd y pridd yn golygu bod amrywiaeth eang o dyfiant yma. Hyd at y 1930au defnyddiwyd y safle at ddibenion amaethyddiaeth yn enwedig at ddefnydd y tlawd i gasglu cyrs. Yn dilyn gostyngiad a fu yn nefnydd y ffen fel safle amaethyddol esgeulustwyd y safle o ran reolaeth a defnyddiwyd y safle fel tomen sbwriel. Dim ond mor ddiweddar a 1976 yr aethpwyd ati i lenwi'r safle a phrynwyd y safle gan hen Gyngor Bwrdeistref Castell Nedd er mwyn sefydlu gwarchodfa natur leol ym 1983. Mae'n safle ecolegol pwysig iawn gan fod nifer o ffeniau tebyg yn yr ardal wedi eu colli. Dynodwyd y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym 1979. Ar y safle ceir nifer o blanhigion o ddiddordeb gan gynnwys Rhedynen Gyfrdwy, Llafnlys Mawr a'r Farchredynen Gul. Mae'r ffen hefyd yn gartref i nifer o adar gan gynnwys Bras y Cyrs, Telor y Cyrs a Thelor yr Hesg. Mae'n werth ymweld a'r safle yn ystod yr haf yn enwedig os oes gennych ddiddordeb mewn pryfed gan fod y ffen yn gartref i ddeg math o wesynnod. Gellir dilyn Ilwybr pren i ganol y ffen neu ddilyn Ilwybr sydd yn amgylchynu'r ffen. Lleolir Cors Crymlyn ynghanol ardal ddiwydiannol ac fe'i disgrifiwyd fel "gwerddon naturiol yng nghanol tirlun diwydiannol". Yn wir mae'r ffen drws nesaf i burfa olew Llandarsi a thomen sbwriel Tir John. Y ffen yw'r arwynebedd mwyaf o'i bath yng Nghymru ac mae'r cynefin yn fwy tebyg i ardaloedd East Anglia nag i Dde Cymru. Mae'r ffen yn gartref i blanhigion, pryfetach ac adar diddorol ac mae'r holl ardal yn cael ei rheoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Dynodwyd y safle yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Ymhlith y planhigion gellir gweld Plu'r Gweunydd Eiddil, Rhedynen Wyfrdwy, Gwlithlys, Llymfrwynen a Swigenddail Lleiaf. Mae'r ffen yn gartref i nifer o wesynnod, gwyfynod, chwilod a chorynnod prin. Ymysg y trychfilod gellir gweld y Corryn Rafft ac yn ystod yr haf yn gorwedd ar domeni tail ceffyl yn y cae crugog y Pryf Lladd. Mae'r ffen yn gartref i nifer o adar gan gynnwys 'Telor yr Cyrs, Thelor yr Hesg a Chnocell Werdd ynghyd ag adar prin megis Rhegen y Dwr ac Aderyn y Bwn. Yn ystod yr Hydref defnyddir y cyrs fel safle clwydo gan gannoedd o wenoliaid cyn mudo ac mae'r coed ar ffin y ffen yn safle clwydo i filoedd o Jac y Do yn ystod y Gaeaf. Nodweddion eraill a berthyn i'r warchodfa yw twmpathau morgrug niferus sydd yn arwydd nad yw'r tir mewn rhai ardaloedd wedi ei droi ers o leiaf gan mlynedd, coed gwern sydd yng nghanol y warchodfa ac sydd mewn gwirionedd yn fygythiad i ecoleg y safle. Tasg fawr i Gyngor Cefn Gwlad yw ceisio rhwystro Iledaeniad prysg a fyddai yn ei dro yn amharu ar ecoleg y warchodfa. Yn gefn i'r warchodfa ceir Craig Dan y Rhiw a elwir yn Ileol yn "Lousy Hill" oherwydd ei fod ar un adeg yn llawn cwningod a oedd yn gwneud y safle edrych fel petal yn llawn llau. Gellir ymweld a'r safle trwy ddilyn y Ilwybr sydd wedi ei farcio a saethau gwyn, mae'r daith gerdded o gwmpas y warchodfa oddeutu 1 km o hyd. Gofynnir i ymwelwyr gau pob clwyd ar eu hôl a bod yn hynod ofalus gan mai haenen denau o lysdyfiant dros fwd yw'r safle. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif fentro oddi ar y Ilwybr gan fod hyn yn beryglus ac hefyd gallai fod yn ddamweiniol i'r amgylchedd.Felly os am fentro allan i gerdded ar ddiwrnod braf yn y Gaeaf beth am fentro i un neu'r ddwy werddon sydd ynghanol tirlun diwydiannol".
|