91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Ymwelwyr gwyrdd o'r coedwigoedd pell
Ionawr 2005
Rwyf wedi cyfeirio at y pila gwyrdd (Siskin) ar sawl achlysur yn y golofn hon. Mae'n debyg bod yr aderyn bach gwyrdd yma yn dod yn fwy cyffredin yn ein gerddi gyda i niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar gyflenwad y bwyd naturiol sydd ar gael.
Nid yw'n aderyn swil a gellir mynd yn eithaf agos atynt wrth iddynt fwydo ar gnau mwnci. Ar yr olwg gyntaf mae'n aderyn sydd yn ymdebygu i'r llinos werdd (greenfinch) ond mae'n llai o faint gyda phig llawer meinach. Mae'r ceiliog yn aderyn hynod o liwgar yn enwedig yn y Gwanwyn gyda phlu gwyrdd a melyn a choron ddu am ei ben. Nid yw'r iâr mor liwgar gyda phlu mwy brith.

Cyn y 1960 'roedd y pila gwyrdd wedi ei gyfyngu i goedwigoedd pîn yng ngogledd a chanolbarth Ewrop ac yma ym Mhrydain i ogledd yr Alban. Yna yn ystod Gaeaf 1963 cofnodwyd pila gwyrdd yn bwydo ar gnau mwnci mewn gardd yn Surrey. Yn ystod y blynyddoedd dilynol daeth mwy a mwy o bobl i'w cofnodi yn eu gerddi. Credir mai'r hyn a ddenodd yr adar oedd cnau mwnci wedi eu gosod mewn bagiau rhwyd coch. Credir bod y bagiau coch yn ymdebygu i foch y coed (pine cones) sef ffynhonnell bwyd naturiol y pila gwyrdd. Erbyn heddiw mae'r pila gwyrdd i'w gofnodi led led y wlad.

Ym myd yr adar credir bod dulliau bwydo yn rhannol yn cael eu dysgu trwy ddilyn esiampl. Yn ddiweddar darllenais am astudiaeth a wnaed ar y pila gwyrdd yn Norfolk. Ym 1994 gwnaed apêl gan ŵr o'r enw Michael Seago i bobl gofnodi'r pila gwyrdd yn eu gerddi. O ganlyniad i'r apêl caed ymateb oddi wrth 156 o bobl a oedd wedi cofnodi'r aderyn yn eu gerddi. Bu 1993 yn flwyddyn dda i'r pila gwyrdd yn Norfolk gyda niferoedd mawr ohonynt yn cael eu cofnodi.

O ganlyniad i'r ymateb penderfynwyd ar gynllun i fodrwyo'r adar, Aethpwyd ati gyda'r dasg rhwng Ionawr ac Ebrill 1994. Yn ystod y cyfnod yma llwyddwyd i fodrwyo 3,000 o adar (gyda 580 o unigolion yn cael eu modrwyo mewn un gardd!) Wrth iddynt ddal yr adar sylweddolwyd bod nifer o'r adar yn cario modrwy yn barod a gwelwyd fod yr adar yma wedi mudo dros y gaeaf o gyfandir Ewrop, Northumberland a'r Alban.

Yr hyn sydd yn ddiddorol yw, nad yw'r pila gwyrdd yn ymddangos yn ein gerddi ar yr un adeg. Credir bod gwahaniaeth yn yr amseriad yn dibynnu ar leoliad daearyddol gerddi. Mewn sawl ardal nid yw'r pila gwyrdd yn defnyddio gerddi tan ar ôl y flwyddyn newydd neu mor ddiweddar â mis Chwefror. Dyma'r adeg pan fydd eu bwyd naturiol megis hadau coed, pîn, bedw a gwern wedi diflannu.

Ar yr adeg yma o'r flwyddyn daw'r pila gwyrdd yn ddibynnol ar fwydydd sydd yn cael eu darparu mewn gerddi, Yma yng Nghlydach 'rwyf wedi cofnodi'r pila gwyrdd yn ystod mis Tachwedd ac hefyd mor ddiweddar â mis Mai gyda chywion yn dod i fwyta cnau mwnci. Mae ymddygiad a newid patrwm yr adar yn hynod o ddiddorol. Beth am i chwi gadw llygad ar ymddangosiad y pila gwyrdd yn eich gardd? Os digwydd i chi gofnodi unrhyw beth diddorol neu nifer sylweddol o adar gadewch i mi wybod. dewi.lewis@btinternet.com


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý