Yn ystod mis Mawrth, aeth pedwar pâr o Ystradgynlais ar antur i Batagonia, sef Sheila a David Close, Val a Doug James, Alvene ac Alun Morgan a Gwenfron Williams ac Andrew Ingram. Dechreuodd yr antur ar ddiwrnod oer ar ddiwedd Chwefror, ond wedi taith awyren o ryw bymtheg awr, roeddent dan haul tanbaid haf pegwn y de. Yr arhosiad cyntaf oedd yn ninas Buenos Aires, prif ddinas yr Ariannin gyda'i rodfeydd llydan a'r coed Jacaranda. Roedd hi'n brofiad gwych gweld y Casa Rosada o le y gwnaeth Evita a Maradona Peron gyfarch eu pobl. Eu harhosiad cyntaf ym Mhatagonia oedd gyda nith Gwenfron a'i theulu, Eleri, Tim a'u mab Macsen. Mae Eleri yn ferch i Gruff ac Eifiona Roberts o Aberhonddu sydd wedi ymgartrefu ym Mhatagonia gyda'i gŵr Tim, brodor o'r Ariannin. Cwrddon nhw hefyd ag Eifiona oedd newydd gyrraedd y Wladfa o Aberhonddu. Teithion nhw o gwmpas y wlad ac ymweld â Dolavon, Trelew, Cwm Hyfryd a Puerto Madryn i enwi ychydig. Daeth cais arbennig iddynt fynychu angladd un o frodorion hynaf Dolavon, sef Tommy Davies oedd wedi cyrraedd 96 oed. Roedd yr oedfa yn Gymraeg a Sbaeneg a chanwyd yr hen ffefrynnau, Llef a Chalon Lân. Roedd hwn yn brofiad dwys a godai hiraeth yng nghalonnau pawb oedd yn bresennol. Profiad llesmeiriol oedd gweld eiddo un o gyndeidiau Huw Williams, Y Mimosa, Ystradgynlais pan gyrhaeddodd y Wladfa gyntaf o Gymru. Daeth y daith hudolus hon i ben gydag ymweliadau i Esquel wrth droed mynyddoedd yr Andes, a rhaeadrau byd enwog Iguasu ym Mrasil. Yn ddiau, roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy a godai syndod a pharch mewn dewrder a phenderfyniad y Cymry a fentrodd i'r Ariannin i edrych am fywydau gwell. Erys atgofion am y croeso didwyll, Cymreig gawsant gan Gymry Cymraeg Patagonia am byth yng nghof yr wyth teithiwr o Ystradgynlais.
|