Ddechrau Ebrill, bydd Clive Rowlands yn cyhoeddi casgliad o'i hiwmor. Clive Rowlands yw un o gewri rygbi Cymru. Bu'n gapten, hyfforddwr a dewiswr dros ei wlad, yn sylwebydd di-flewyn-ar-dafod ar y radio ac mae'n un o gymeriadau mwyaf ffraeth a phoblogaidd Cymru. Mae 'Hiwmor Clive', sy'n cael ei gyhoeddi fel rhan o gyfres 'Ti'n Jocan' gwasg Y Lolfa yn cynnwys nifer o jôcs yn ogystal â hanesion difyr a doniol.
Brodor o Gwmtwrch yw Clive, a'r pentref (Upper a Lower!) yw canolbwynt llawer o'r jôcs, ond hefyd mae yna berlau am rygbi, yn cynnwys nifer o straeon doniol am arwyr fel Barry John, Gareth Edwards, Dai Morris ac Onllwyn Brace. Mae hefyd yn sôn am y tynnu coes a ddilynodd y gêm enwog honno yn Murrayfield ym 1963 pan giciodd y bêl i'r ystlys yn ddi-baid, gan achosi 111 o linellau - gêm a berodd i'r awdurdodau rygbi newid y rheolau.
Wrth ddarllen y llyfr, daw yn amlwg gymaint o feddwl sydd gan Clive o'i filltir sgwâr a'r holl gymeriadau sy'n byw yno, a cheir blas ar dafodiaith unigryw Cwmtwrch. Gwelir hefyd sut y mae Clive yn gweld yr ochr ddoniol i bopeth, hyd yn oed yn ystod ei salwch diweddar. Mae'n datgelu taw sylw'r anesthetydd wedi iddo gael "quadruple heart bypass" dro yn ôl oedd "dyna beder pas yn fwy i Rowlands heddi nag roddodd yn Murrayfield ym 1963!"
Cydweithiodd y sylwebydd a'i gyfaill agos John Evans gydag ef ar y casgliad. Bydd y gyfrol yma o berlau Clive Rowlands yn drysor i bawb sydd wedi cael y pleser o'i weld yn hudo cynulleidfa, boed yn griw anffurfiol o gwmpas bwrdd neu'n gynulleidfa fawr mewn neuadd neu glwb rygbi.
|