Dyma ddatganiad cenhadaeth y sefydliad.Ein Hysbrydoliaeth - Galatiaid Pennod 6 adnod 2 "Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch Gyfraith Crist". Ein Cymhelliad Ein cariad at Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr a'n dymuniad i rannu Ei gariad ag eraill.Ein Hamcanion I'r Comisiwn Elusennau (a) I hyrwyddo Cristnogaeth yn fyd-eang drwy annog ymwybyddiaeth efengyl Iesu Grist. (b) I leddfu tlodi. (c) I hyrwyddo addysg. Ein gweddi yw i ddodi gwên ar wynebau pobol yn enw Crist. I helpu pobol, yn enwedig plant i fod yn ymwybodol eu bod yn cael eu caru a heb gael eu anghofio pa beth bynnag eu hamgylchiadau. I rannu y ddarpariaeth mae Duw wedi'i baratoi ar ein cyfer, gyda'r bobol sydd angen llety sylfaenol, bwyd a chariad. Bu Beti yn helpu gyda llwytho faniau a threilars gyda basgedi bwyd a bocsys esgidiau o "Operation Christmas Child" i'w rhannu â'r bobol a phlant. Treuliodd amser hefyd yn ymweld â theuluoedd tlawd iawn - un menyw yn byw mewn un ystafell heb wely, dim bwyd a chardbord fel carped ar y llawr. Wedyn ymweld â mam a'i phedwar plentyn yn byw mewn un ystafell a chegin fach, gydag un gwely sengl a soffa, y plant yn cysgu ar y rhain, tra roedd y fam yn cysgu ar y llawr.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |