Cyfrol ddwyieithog ddiddorol ac unigryw yw hon a olygwyd gan T. Graham Williams, neu 'Cefnfab' fel y'i hadwaenir orau yn y byd eisteddfodol Cymraeg. Dywed y bardd a'r awdur hwn - a gŵr, gyda llaw, sy'n arbenigwr ar lefaru barddoniaeth a rhyddiaith Dylan Thomas, mai dilyn cwrs gradd gyda'r Brifysgol Agored flynyddoedd yn ôl a'i hysgogodd i fynd ati i lunio'r gyfrol hon. Sefydlodd weithdy llenyddol yn Rhiw-fawr ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf symbylwyd yr aelodau i fynegi trwy gyfrwng ysgrifau a storïau yr hyn yw Cymreictod iddynt hwy. Sonia Roger Whatcott, Maggie Wagstaff a Phyllis Wagstaff am y rhesymau y daethant i fyw i Gymru. Mynega Jean E. Williams yn ei stori am y modd y canfu'r Cymry'n gefnogol iawn yn ei hanes wrth ddioddef argyfwng teuluol. Y mae Marjorie Showalla yn sôn am y profiad cyffrous o fod yn alltud yn Aden a sut y bu'n rhaid iddi ffoi yn ôl i Gymru. Llawn hiwmor yw ysgrif Leon am ei brofiadau fel cyn löwr. Nid oes prinder deunydd gan Cefnfab ei hun a cheir ganddo erthyglau a barddoniaeth am Dylan Thomas, Gwynfor Evans, Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Urdd Gobaith Cymru. Gwahoddwyd nifer o awduron eraill y tu allan i'r cylch ysgrifennu i gyfrannu at y gyfrol. Ceir ysgrif ddiddorol gan yr hanesydd lleol, Brian Davies, Ystradgynlais, ar y sgweiriaid Cymreig yn ceisio efelychu eu tebyg yn Lloegr. Geilw Clive Rowlands i gof sut y bu i ganu'r Cymry ei ysbrydoli, ac mae Euros Jones Evans yn ei ysgrif hunangofiannol yn' sôn am y dylanwadau cynnar hynny a fowldiodd y Cymreictod ynddo. Ceir cyfraniad gan Brian Davies, Curadur Amgueddfa Pontypridd, sy'n canolbwyntio ar gymhlethdod hunaniaeth y neb sy'n byw yn y cymoedd. Sôn am gerddoriaeth gyda'r cysylltiadau Cymreig a wna Bryan Davies, cyfeilydd enwog o Ferndale. Y mae Annette Thomas o Gapel Uchaf yn hel atgofion am ei thad-cu a fu'n bugeilio ar Fynydd Epynt. Ceir barddoniaeth wych iawn yn y gyfrol hefyd. Haedda'r cerddi a ysgrifenwyd gan Cefnfab, J. Beynon Phyllips, Dylan Iorwerth, Karen Owen a Iwan Bryn Williams, eu lle mewn unrhyw antholeg safonol Gymraeg. Cyfrol i'w chadw ar y bwrdd yn ymyl y gwely yw hon. Diau y gwna i bob un a'i darlleno holi pa ddylanwadau sydd wedi bod ar waith yn nyfnder ein bod ac a sicrhaodd na fedrwn ddianc rhag ein hunaniaeth Gymreig.
|