"Mae gennym ni bedair rhaglen arbennig o Fynydd y Gwair a Mynydd y Baran, yn mynd â ni drwy'r tymhorau," esbonia Dai. "A dyna i chi le arbennig. Mae'n hyfryd yn yr haf ond yn enbyd pan ddaw caledi'r gaeaf."
Mae llawer o bobl o'r tu allan i'r fro yn ystyried yr ardal yn un ddiwydiannol. Ond meddai Dai fod traddodiad hir o amaethu yng Nghwm Tawe a'r mynyddoedd cyfagos.
"Mae 'na bobl ddiddorol tu hwnt yn byw ar y mynyddoedd yma. Pobl y pyllau glo oedden nhw ers talwm ond yn y gorffennol byddent hefyd yn gwneud bywoliaeth dda o werthu llysiau cartref i farchnadoedd lleol. Ond gyda thyfiant yr archfarchnad, mae'r hen fywoliaeth wedi marw. Serch hynny, mae'r gymuned yr un mor glos ag yr oedd hi erioed."
Pennod 1 - Y Gaeaf
Yn y bennod gyntaf, bydd Dai yn ymuno â'r amaethwyr yn ystod y gaeaf. Mae'r tywydd yn arw, ond mae ffermwyr yr ardal yn brysur yn porthi eu hanifeiliaid. Bydd Dai yn ymweld â fferm Jethro ac Euryl Harries lle mae'r gwartheg yn cael trin eu traed. Er y prysurdeb, caiff sgwrs â chymeriadau'r ardal gan roi help llaw i ambell un gyda'r gwaith, megis Nancy Williams, Fferm Maestirmawr.
Bydd e hefyd yn ymweld â theulu Llwyngwenno, Felindre i weld y stoc ac yn cael sgwrs gydag Arwel Jones am ei waith contractio, a'i ddawn i addasu peiriannau i wneud y gwaith yn haws.
Pennod 2 - Y Gwanwyn
Mae ffermwyr yr ardal yn brysur gyda thymor yr wyna ac mae'r gwaith o fwydo'r gwartheg a'r defaid yn parhau. Yn ogystal â chyfarfod ffermwyr yr ardal, bydd Dai yn siarad â'r Parchedig Eirion Phillips gan gael hanes un o gapeli hyna'r fro, Capel Gellionnen. Bydd Dai hefyd yn ymweld ag Arwel Williams, Cefn Myddfai, Felindre, sydd yn meithrin ac yn gwerthu blodau a phlanhigion o bob math gyda chymorth ei fam Nancy Maestirmawr. Yn ogystal, bydd Dai yn ymuno âphlant Ysgol Gynradd Felindre, wrth iddynt ddathlu Dydd Gŵl Dewi.
Pennod 3 - Yr Haf
Mae'r ffermwyr yn brysur gyda'r silwair, ac mae pawb ar fynd. Bydd Dai yn cyfarfod nifer o gymeriadau gan gynnwys y brodyr John, Wil a Dai Williams, sydd wedi teithio ar hyd a lled de Cymru dros y blynyddoedd, yn cneifio defaid, gyda John, yn parhau i gneifio er ei fod bellach yn ei saithdegau. Bydd Dai yn ymuno ag aelodau a chyfeillion Capel y Baran, wrth iddynt ddathlu Daucanmlwyddiant y capel, gyda gwasanaeth arbennig. Mae'r capel dan ei sang gyda thorf fawr y tu allan hefyd, yn gwrando ar y gwasanaeth ar ddiwrnod hyfryd o haf.
Pennod 4 - Yr Hydref
Mae'r anifeiliaid yn edrych ar eu gorau wedi'r haf ac mae'n dymor mawr yr arwerthiannau. Bydd Dai yn ymuno â rhai o bobl yr ardal ym Mart Castell-nedd ac yn cael sgwrs gydag ambell gymeriad. Mae'r tywydd yn dechrau troi'n aeafol, ac mae'n rhaid dechrau porthi'r anifeiliaid unwaith eto. Bydd Dai yn cadw cwmni i Alun a Wendy Jacob, wrth iddynt ymweld â gyr o'u gwartheg ifanc sydd wedi bod yn pori dros yr haf yn ardal Llandeilo, ac sydd ar fin dychwelyd yn ôl i fferm Twll y Gwyddil, dros y gaeaf.
Meddai Dai, "Er gwaetha'r holl ddarogan gan y proffwydi nad oes dyfodol yn y byd amaethyddol, mae Alun a Wendy Twll y Gwyddil, fel llawer eraill o'r ardal, wedi cau dannedd a mynd amdani go iawn, yn gweithio'n galed bob dydd. Mae'r bobl yma wedi'u geni a'u magu ar y mynyddoedd a gyda phrofiad blynyddoedd, maent yn deall y tywydd a'r tirlun i'r dim. Rhaid cofio mai'r bywyd gwledig a chefn gwlad mewn ardaloedd fel Mynyddoedd y Gwair a'r Baran sydd wrth wraidd rhyddid y gymdeithas yng Nghymru."
Cefn Gwlad: Y Pedwar Tymor ar Fynydd y Gwair a'r Baran
Nos Lun, 19 Mehefin, 8.25pm, S4C. Hefyd, nos Sadwrn, 24 Mehefin.
Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C