Yn 1802 roedd Benjamin Maikin (Athro Saesneg yn Prifysgol Llundain) ar ei ffordd trwy Dde Cymru. Fe alwodd mewn i Pant-y-Ffyrch, ar ôl sefyll noson yn yr Oen-a'r-Faner, Pentre'r-Lamb. Ar ôl iddo gyrraedd y Dyfnant, fe gynghorwyd ef gan Mr Thomas Watkins i beidio marchogi ymhellach trwy'r goedwig, ond i ddringo lan heibio tŷ^ Fferm Garw-Leisiau, ymlaen hyd at heol y plwyf tu draw i Pant-yFfyrch.
Mae'n bosib mai Mr Thomas Watkins oedd un o sylfaenwyr Capel Annibynwyr Ty'n-y-Coed, Penycae. Dywedodd y diweddar Mr W.H. Morgan, Cwmgiedd wrthyf dros bedwar degawd yn ôl mai lle peryglus oedd yr ardal hyn, enwedig y Palleg i deithwyr ganrifoedd yn ôl.
Roedd Mr W.H. Morgan yn brif athro ysgol gynradd Penrhos, Ystradgynlais, ac yn hanesydd da. Mae hen ffordd o Abertawe i Aberhonddu yn mynd heibio ddim ymhell o Pant-y-Ffyrch. Os am deithio o Abertawe i Aberhonddu sawl canrif yn ôl, dyma'r ffordd roeddynt yn mentro. Abertawe, Hafod, Llangyfelach, Gelli-Onnen, Rhyd-y-Fro, Cefn-Gwrhyd, Pen-Rhiwfawr, Cwmtwrch-Isaf, Palleg, Cwmgiedd, Neuadd-Lwyd, ymlaen ochr orllewinol y Garth a Cribarth, ac i lawr o'r mynydd ger Craig-y-nos. Ymlaen heibio Tafarn-y-Garreg. Hwn oedd arhosfa olaf i'r porthmyn cyn teithio Hen-heol-Trecasteli, Bwlch-CerrigDuon a Glas-Fynydd cyn iddynt uno gyda'r hen ffordd o Lanymddyfri i Aberhonddu.
Y daith gerdded
Gadewch i ni ddod yn ôl i Pant-y-Ffyrch. Cerddom oddi yno ar hyd yr hen dramffordd sydd wrth droed gorllewinol Cribarth. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd deg milltir a hanner o dramffordd ar y Cribarth, a deunaw o lethrau tramffyrdd wedi codi rhwng 1798, pan agorwyd Camlas Cwmtawe, hyd at ddiwedd y diwydiant calch yn yr 1890au. Cloddiwyd y garreg bwdr a thywod silica o amgylch Cribarth hefyd.
Fe adawsom y Cribarth gan gerdded lawr am Graig-y-Nos, ac fe groesom Afon Tawe a cherdded lan ochr ddwyreiniol yr afon. Croesom yr afon unwaith yn rhagor ger y cerrig camu, ac ymlaen am Melin-y-Blaenau sydd ar lan Nant-Llynfell. Mae Nant-Llynfell yn llifo allan o Dan-yr-Ogof. Dyma beth oedd gan y Parch. Thomas Levi i ddweud am Melin-y-Blaenau yn 1865.
Mae y ffrwd sydd yn rhedeg allan o'r afon yn rhedeg yn ddyfroedd cyson; ac ar y ffrwd hon, rhwng genau yr ogof a'r afon Tawy yr oedd hen "Felin y Blaenau." Yr oedd y felin hon yn un o Melinau Caeth ("Lords Mill'), saith o ba rai oedd yng Nghymru, a'r rhai y rhwymid y trigolion o fewn pellter penodol i fyned a'u hyd iddynt i'w falu. Ond y mae y siopau, a blawd Lloegr, wedi atal rhod y felin er ys blynyddoedd. Dylasem goffa yr arferai yr hen bobl ddywed fod ddwfr Llynfell yn arfer troi yn wyn fel glasddwr llaeth ar ôl hir sychder, a phan fyddai gwlaw yn agos, ac mai drannoeth wedi y gwlaw y bydd y dyfroedd yn codi.
Ar ôl troi ein cefnau ar Melin-y-Blaenau, cerddom yn ôl hyd at Afon-Tawe. Uwch ein pennau, ar lethrau uchaf Craig-y-Rhiwarth mae ogof ddiddorol i'w gweld. Dyma beth sydd gan Thomas Levi i ddweud amdani.
Gyferbyn a'r ogofâu hyn , y tu arall (aswy) i'r afon, y mae Craig yr Ywarth (Craig Gerth yr Yw, medd rhai), yn cael ei gorchuddio mewn rhan gan goedydd man, ac yn ei thrwyn noeth dwll neu ogof, a elwir "Eglwys Caradog. "
Nid yw yr ogof ond rhyw ddeuddeg troedfedd ysgwâr wrth ryw chwech o uchder. Paham y gelwir hi yn eglwys Caradog, sydd yn bwnc pur amheus. Dywed awdur "History of Breconshire" mai yn yr ogof hon y bu farw Gwynlliw filwr, ym mreichiau ei fab Catwg noe Cadawc, ac mai "Eglwys Catwg" ddylai fod, oddi wrth yr amgylchiad hwn. Dywed ein hysbysydd, "Pwy a'r na fu Caradog y Meudwy, yn ei ffoedigaeth rhag Arglawdd Rhys, yn aros am dymor yn yr ogof hon, ac mai ar ei enw ef y gelwid hi?"
Wedi croesi afon Tawe unwaith yn rhagor, roeddwn wedi cyrraedd yr hen ffordd sydd wrth droed Craig-y-Rhiwarth. Dywed rhai mai hen ffordd Rufeinig sydd wedi ei anwybyddu ydyw. Mae'r hen ffordd yn ymadael â Sarn Helen ger y Gaer yng Nghoelbren, ac mewn i ben uchaf Cwmtawe.
Ymlaen wedyn tros Epynt, hyd at Castell Collen, ger Llandrindod. Dilynom yr hen heol lawr heibio'r Rhongyr-Uchaf (Rhan-gur?) ac ogof Ffynnon-Ddu. Dywedir i hen ysbaddwr oedd yn arfer mynd trwy y lle dan ganu ei gorn, i hysbysu ei ddyfodiad, ac i gynnig ei wasanaeth, fyned i mewn i'r ogof lle mae Ffynnon-Du yn tarddu ohoni, er mwyn gwybod ei chwrs; ac i'r bobl glywed sŵn ei gorn ymhell uwchben, ond ni welwyd ef byth mwyach. Cerdded wedyn heibio Rhongyr-Isaf, a dros Tawe unwaith eto ar Pont-yr-Offeiriaid.
Ymlaen aethom wedyn, hyd at weddillion hen ffermdy yng nghysgod y Cribarth, Glyn-Gwennws-Fach. Hanes diddorol sydd yno hefyd. Mae'n edrych fel yno oedd yr olaf o wylnosau llawen yn Cwmtawe, ar farwolaeth hen wraig oedd wedi crymu nes bron dyblu. Yr oedd ei chorff yn gorwedd ar fwrdd, o flaen y ffenestr ddellt tu cefn; ac er mwyn cymhwyso ei chorff i'w osod yn yr arch, gosodwyd estyllen arno, a charreg drom ar ben yr estyllen. Rhywbryd yn ystod y bore pan oedd y cwmni yng nghanol eu cyfeddach lawen, fe aeth un gwalch drygionus allan; cymerodd bastwn hir o'r berth gerllaw, gwthiodd ef i mewn trwy y ffenestr ddellt, taflodd y garreg i lawr oddi ar yr estyllen, a dyma'r corff yn crymu yn ôl i'w hen ffurf grymedig, gan daflu yr astell i lawr, ac agos godi i'w eistedd.
Credodd y bobl fod yr hen wraig wedi dyfod yn fyw, a chyn pen hanner munud yr oedd wedi cael y tŷ^ iddi ei hunan. Gwnaeth pob un y gorau o'i traed; ac wrth redeg ar draws y perthi a'r corsydd, ofnent edrych yn ôl rhag gweld fod yr hen wraig grymog yn dilyn. Ni fynnai neb ddychwelyd i'r tŷ^ cyn toriad gwawr. Cafodd y llanc a wnaeth y weithred, drafferth mawr i berswadio rhai ohonynt, y gwirionedd am yr achlysur.
Troesom ein cefnau ar Glyn-Gwennws-Fach, ac ymlaen aethom am goedwig Abercraf sydd ar lethrau Cribarth. I'r dwyrain i gyfeiriad y cymer rhwng Nant-Llech ac Afon- Tawe, yno ar y darn o dir rhwng Glyn-Llech-Isaf a Cefn-Coed-Isaf, bu brwydr rhwng GwÅ·r Brycheiniog a'r Normaniaid yn 1096.
Roedd ein cylchdaith yn cyflym ddod i ben, a hyfryd oedd cerdded o dan y coed coil-dail sydd rhwng Glyn-Gwennws-Fach, a fferm daclus Abercraf. Gallwn ddychmygu beth oedd Cwmtawe fel amser maith yn ôl o dan ei fantell werdd, cyn y chwyldro diwydiannol.
Arwel Michael