91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Angharad Davies Ymroddiad anhygoel
Rhagfyr 2006
Yn ystod gwyliau hir yr haf, fel arfer, ennill arian sydd ar feddwl y rhan fwyaf o fyfyrwyr colegau a phrifysgolion. Nid felly Angharad Davies o Glydach ...
Pan yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar liwt ei hunan, aeth i Romania i ddatblygu'n ymarferol rhai sgiliau a syniadau. Drwy ryw ddirgel ffyrdd, yn enwedig mewn gwlad fel Romania, llwyddodd i gael defnydd o ystafell fach mewn ysbyty a sefydlu grŵp Therapi Chwarae i blant amddifad a difreintiedig. Mae gofal bugeiliol a seicolegol yno yn brin ofnadwy, ac mae'n rhaid i'r plant ddioddef mewn tawelwch o dan amgylchiadau truenus heb unrhyw ddealltwriaeth a chydymdeimlad o'u cyflwr.

Os nad oedd hynny'n ddigon, wedi graddio, aeth Angharad ymhellach, yr holl ffordd i Fongolia yng nghanol Asia i sefydlu grŵp tebyg. Wedyn i Kenya, ac mae ar hyn o bryd yn ninas Tuxtla, Mecsico, yn sefydlu grŵp wedi iddi ddod i gysylltiad gyda meddyg tra ar ei gwyliau yno. Pwrpas y fenter yw sefydlu canolfan Therapi Chwarae, lle nad oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl ar hyn o bryd, i helpu'r trueiniaid drwy roi cyfle iddynt fynegi eu hunain a magu hyder drwy chwarae strwythuredig o dan arolygiaeth ac arweiniad Angharad. Bu rhaid iddi ddysgu Sbaeneg ar frys i alluogi magu perthynas clos a dwys, fel na fydd unrhyw ddiffyg dealltwriaeth rhyngddi a'r plant - mae hynny'n elfen bwysig iawn.

Fel y dychmygwch, mae'n fenter anturus a dewr i un mor ifanc, heb sôn am yr oblygiadau ariannol. Mae tocyn awyren i Fecsico yn costio £500! Am yr wythnosau cyntaf, cafodd waith yn dysgu Saesneg fel ail iaith, er mwyn cael arian i fyw, cyn dechrau ar ei phrif waith. Mae'r holl beth yn lafur cariad iddi, felly pan mae adre' mae'n brysur yn codi arian i'r project nesaf.

Diwrnodau cyn hedfan i Fecsico, trefnodd bod grŵp o gerddorion yn dod ynghyd i ganolfan newydd Y Forge yng Nghlydach i greu cerddorfa byr-fyfyr, a grŵp bach o gantorion a fu'n perfformio caneuon o'r sioeau poblogaidd. (Un ohonynt yn gyn athrawes cerdd i Catherine Jenkins!!)

Mae tad Angharad, Geraint yn gyn athro llinynnol teithiol, felly roedd nifer o'i ffrindiau o'r gwasanaeth addysg a'i gyn-ddisgyblion wedi rhoi o'u hamser i helpu Angharad.

Gyda mam wedi paratoi te, coffi a theisennod di-ri, bu'n noswaith lwyddiannus gyda chyfraniad teilwng i'r gronfa i hybu gwaith gwirfoddol, gwerthfawr, clodwiw Angharad. Braf clywed am rywun sy'n fodlon codi o'r gadair a gwneud rhywbeth yn lle beirniadu a tyt-tytan o bell.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý