Yn ddiweddar bu John Rees Craig Cefn Parc yn sôn am Fwncath (neu Foda) (Buzzard) a oedd yn treulio cyfnodau hir yn pori mewn cae tu ôl i'r tŷ.
Mae'r bwncath yn un o'n hadar ysglyfaethus mwyaf cyffredin. Fe'i gwelir yn amlach na pheidio yn cylchu yn yr awyr wrth iddynt ddefnyddio awyr twym (thermals) i aros yn yr awyr. Un ffordd hawdd i'w hadnabod yn yr awyr yw sylwi ar y gynffon sydd fel siâp gwyntyll (fan). Ar rai adegau maent yn gallu bod yn adar swnllyd a'u cri tebyg i gath i'w glywed yn amlwg yn enwedig pan fo'r cywion newydd adael y nyth.
Un o brif fwydydd y bwncath yw cwningod a bu gostyngiad mawr ym mhoblogaeth y bwncath yn ystod achosion o'r clwy mycsomatosis yn y 1960au. Yn y flwyddyn 2000 amcangyfrifwyd bod oddeutu 3,800 o barau o'r bwncath yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar y niferoedd yn y 1960au. Ar ddiwedd yr 1960au a dechrau'r 70au roedd y bwncath yn aderyn eithaf prin. Mae gennyf gof mynd i weld pâr o'r adar yng nghyffiniau Tremadog. Mae'n debyg mai'r pâr yma oedd yr unig bâr a oedd yn magu yn yr ardal bryd hynny. Erbyn heddiw ceir sawl pâr.
Mae'n aderyn digon cyffredin yng Nghwm Tawe hefyd ac ar ddiwrnod braf gellir gweld sawl aderyn yn cylchu yn yr awyr. Os mai cwningod yw prif fwyd y bwncath teg felly yw gofyn beth oedd bwncath John Rees yn gwneud yn pori mewn cae?
Wel mae'r bwncath yn eithaf catholig gyda'i fwydlen ac yn barod i fwyta pob math o fwydydd. Nid tasg hawdd yw dod o hyd i ddigon o gwningod i fwyta yn ystod y gaeaf. Mi fentra i mai hela mwydod (earthworms) oedd yr aderyn. Dywedodd John bod yr aderyn i'w weld yn gynnar yn y bore. Felly os oedd gwlith ar y gwair a'r ddaear yn wlyb mi 'roedd na siawns dda bod mwydod yn agos i'r wyneb. Fel arfer mae bwncath yn aros yn llonydd gan gerdded yn araf gan aros i'r mwydod ddod i'r wyneb. Mae arbenigwyr wedi bod yn astudio y math yma o ymddygiad ymysg bwncathod ac ymddengys ei fod yn ymddygiad cyffredin led led y wlad.
Clywais yn ddiweddar y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am sawl bwncath yn pori mewn cae oedd newydd ei aredig yng nghanolbarth Cymru. Mae'n ymddangos eu bod yn hoff iawn o gaeau newydd aredig. Mae tirwedd tebyg wrth gwrs yn cynnig cynefin perffaith i ddod o hyd i fwydod. Wrth edrych trwy'r llyfr "Birds in Wales" (1994) gwelais bod sawl cofnod o fwncathod hyd at 45 ohonynt wedi eu cofnodi yn bwydo mewn caeau. Y
na yn y llyfr "Birds in Wales 1992-2000" ceir cofnod o 36 yn bwydo mewn cae oedd newydd ei hadu yn Llanwenog, Ceredigion a 25 yn "mwyda" mewn cae ger Aberhonddu. Y cofnod uchaf a gafwyd oedd 57 ger Castell Newydd Emlyn ond ni chofnodir a oedd yr adar mewn cae neu beidio. Mae'n debyg mai bwncathod ifanc oedd yr rhelyw o'r adar yn yr heidiau yma a hynny yn yr Hydref ar ôl y tymor nythu.
Diolch i John am sylwi ar ymddygiad y bwncath yma yng Nghraig Cefn Parc. Yn sicr dros yr wythnosau nesaf mae siawns dda i chwi weld bwncath yn cylchu yn yr awyr yn yr ardal wrth iddynt sefydlu tiriogaeth a dechrau paratoi am y tymor nythu.
Os ydych chi'n gweld Bwncath - beth am roi gwybod i ni trwy lenwi'r ffurflen isod?
|