Bu cryn ddyfalu ynglyn â'r rhesymau am y digwyddiadau yma, ac ar flaen y gad yr oedd twymo byd eang. Dangosodd archwiliad diweddar gan Coed Cadw (enw gyda llaw sydd yn dyddio'n ôl i gyfreithiau'r canol oesoedd er mwyn disgrifio coedwigoedd a oedd i'w diogelu a'u rheoli) bod arwyddion fod y Gwanwyn yn cyrraedd tipyn bach yn gynt nag yr oedd yn y gorffennol. Y pryder yw y gall y newidiadau yma fod yn niweidiol nid yn unig i fyd natur yn gyffredinol ond hefyd rhywogaethau brodorol unigol. Gofynwyd i oddeutu 17,000 o wirfoddolwyr i gasglu gwybodaeth yn ystod y Gwanwyn. Mae'r wybodaeth a ddaeth i law wedi esgor ar ystadegau diddorol. Nid yw dyfodiad y Gwanwyn wedi ei gyfyngu i fis Mawrth a cheir arwyddion ei fod yn cyrraedd lIawer cynharch. Nid yw'r Hydref chwaith yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref a cheir arwyddion bod yr Hydref yn ymestyn.hyd at ddiwedd mis Tachwedd. Dangoswyd bod tymheredd uwch nag arferol wedi cael cryn effaith ar y Gwanwyn. Ar gyfartaledd roedd patrwm y Gwanwyn tua thair wythnos yn gynt na'r lIynedd, gyda thrychfilod megis pili-pala a'r gacynen i'w gweld yn hedfan llawer cynt yn y flwyddyn. Roedd blodau a choed yn deilio llawer cynt a chaed cnwd o riwbob bron i fis yng ngynt na'r arferol. Nodweddion o'r Gwanwyn cynnar Rhai nodweddion amlwg arall o'r Gwanwyn cynnar oedd;Galwad y gwcw -pum niwrnod yn gynharach na llynedd.Coed cyll yn blodeuo -23 niwrnod yn gynharch na llynedd.Lili wen fach yn ymddangos 7 niwrnod yn gynharch na llynedd. Carpedi o Glychau'r Gog -i'w gweld 16 niwrnod yn gynharach na llynedd.Coed Gwern -yn deilio 13 niwrnod yn gynharach na llynedd.Y ddraenen wen -yn deilio 17 niwrnod yn gynharach na llynedd. Gan fod yna berthynas agos a chlos rhwng holl elfennau byd natur mae'r newidiadau yma nid yn unig yn fygythiad i batrwm y tymhorau ond hefyd i barhad rhai rhywogaethau. Ond nid dyfodiad cynnar y Gwanwyn sydd yn achos pryder, mae amseriad yr Hydref a'r Gaeaf hefyd a'u sgil heffeithiau. Canlyniad anffodus yr Hydref hwyr i rai yw'r ffaith eu bod yn gorfod torri'r lawnt trwy gydol y flwyddyn!. Ar y llaw arall mae pryderon gwirioneddol ynglyn â iechyd gyda gaeafau mwyn. Mae rhai'n credu fod y ffaith nad ydym yn cael Gaeafau oer yn gyfrifol am y cynnydd mewn salwch y frest. Y gred yw nad yw'r bacteriwm yn cael ei ladd gan dywydd oer ac o'r herwydd mae'n ffynnu o flwyddyn i flwyddyn.Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth gadarn fod newidiadau pendant ym mhatrwm yr hinsawdd ac mae rhai gwyddonwyr yn dadlau bod newidiadau llawer mwy wedi digwydd yn y gorffennol a bod byd natur wedi llwyddo i addasu i'r newidiadau yma. Yn sicr mae storiau am y tywydd yn y newyddion yn ennyn trafodaeth frwd ymysg y cyhoedd ac yn codi damcaniaethau lu. Mae sawl damcaniaeth ar led yn barod ynglyn â thywydd y Gaeaf a'r Nadolig. Rwyf am ddweud wrthoch nad ydwyf am ddarogan y tywydd eleni. A'r unig gyngor y gallaf ei roi i chi a'r "gwr o Rhyd y Pandy. byddwch yn barod am dywydd gwahanol i dywydd y llynedd! Dewi Lewis.
|