Daeth cynulleidfa deilwng i'r noson a lywyddwyd gan Mel Morgans. Rhoddodd fraslun o hanes William John ac hefyd darllen rhannau o'r llyfr, sef tamaid i aros pryd. Ceir hanes Cwmllynfell, Cwmtwrch a Chwmtawe a nifer fawr o luniau. Brodor o Gwmllynfell yw yr awdur a bu'n gweithio fel glöwr o dan ddaear am dros ddeugain mlynedd. Bu'n byw ym Mrynaman ac yn awr yng Ngwaun Cae Gurwen. Mae'n Ddiacon yn Eglwys Hermon a bu yn Gynghorwr am dros 20 o flynyddoedd, ac hefyd yn Faer Bwrdeistref Dyffryn Lliw. Gwerthir y llyfr gan Dreftadaeth Brynaman a bydd copïau ar werth am £4.95 mewn siopau lleol a gan aelodau o'r mudiad. Os am lyfr ffoniwch 01269 822926. St. Margaret's Cwmllynfell 1904 - 2004 Dyma anrheg Nadolig i rywun.
|