Rydym fel cymuned ar y Graig yn hynod falch ohono, a dyma ychydig o'i hanes. Mab yw i Vincent ac Audrey ac yn frawd i Miranda. Mae'n briod â Bethan ac mae ganddi nhw ddau o blant hyfryd sef Rhiannon ac Angharad. Cafodd Darren ei addysgu ynYs¬gol Babanod Clydach, Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Yna i Brifysgol Surrey yn Guildford i astudio peirianwaith sifil.
Tra'n astudio yno, ymunodd â Chwmni Costain ym 1988 am ei flwyddyn hyfforddiant, a chafodd brofiad gwerthfawr yn gweithio ar y ffordd groesi newydd yng Nghonwy ar yr A55. Golyga hyn gosod chwech o diwbiau enfawr, oedd yn 118 metr mewn hyd ac yn pwyso 33,000 tunnell yr un o dan Afon Conwy i ffurfio dwy lôn i'r traffig. Roedd yn brosiect unigryw a'r cyntaf o'i fath ym Mhrydain.
O ganlyniad i'r profiad hwnnw a thrylwyredd ei adroddiad am y prosiect, teilyngwyd i Darren The ICE Institution Medal yn 1990. Gan gymaint o argraff wnaeth Darren ar Costain dychwelodd i'r brifysgol am ei flwyddyn olaf gyda nawdd oddi wrth y cwmni. Yn haeddiannol iawn graddiodd Darren ym 1990 gyda gradd anrhydedd dda iawn o Adran Beirianwaith Sifil Prifysgol Surrey. Ers hynny, mae Darren wedi cael profiad o weithio ar rai o brif brosiectau peirianwaith sifil yma yng Nghymru, a thu draw yn Lloegr.
Yn ystod y nawdegau cynnar, roedd Darren wedi ei gadw'n brysur iawn wrth weithio ar ffordd gyswllt yr M4 rhwng Earlswood a Lôn Las ger Abertawe. Wedyn bu'n ymwneud â'r heolydd o gwmpas ail bont Hafren hyd 1993, pan gafodd Darren ei secondio i gwmni Cass Hayward yng Nghasgwent. Yna gafodd hyfforddiant gwerthfawr yn y gwahanol agweddau sy'n ymwneud ag adeiladu pontydd. Roedd y profiad yma wedi bod o fudd mawr i Darren, oherwydd yn fuan wedyn roedd yn rhan o dîm o reolwyr oedd yn gyfrifol am atgyfnerthu traphont (viaduct) Avonmouth. Tra'n gweithio ar y prosiect hwn, llwyddodd yn ei arholiadau proffesiynol MICE, i'w gydnabod fel peiriannydd siartredig ym 1996.
Roedd y flwyddyn hon yn un nodedig i Darren hefyd, gan iddo gael ei anrhydeddu gyda'r I.C.E. James Renne Medal, am ei waith rhagorol yn ei faes arbenigol fel peiriannydd sifil o dan 35 oed. Dyma un o'r anrhydeddau mwyaf clodfawr ac urddasol yn y maes peirianwaith sifil, a'r flwyddyn honno pan ddyfarnwyd y medal i Darren, cafodd ei ddewis allan o fil o ymgeiswyr teilwng eraill.
Ar gyfer yr anrhydedd, roedd yn rhaid i Darren baratoi papur ar y cynllun i atgyfnerthu traphont Avonmoutjh, sy'n rhan hefyd o'r datblygiad i ledaenu'r M5 rhwng cyffyrdd 18 a 19 ger Bryste. Yn ychwanegol i hyn, gorfu iddo hefyd wneud cyflwyniad ar lafar am y prosiect, ac ateb llu o gwestiynau. Diddorol yw nodi fod Darren wedi cael ei wahodd i fod yn un o'r beirniaid, er mwyn dewis ymgeisydd teilwng ar gyfer 2006.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn nid yw ffynhonnell anrhydeddau wedi sychu i Darren. Yn y flwyddyn 2003, derbyniodd Darren ar ran Cwmni Costain wobr arbennig iawn sef "The Considerate Construction Scheme Gold Award", tra'n gweithio ar y gwelliannau i gyffordd A34/M4 yn Chieveley. Dyfarnwyd y wobr i'r cwmni am iddynt fod mor ystyriol o'r gymuned leol gan gynnwys ei thrigolion, y cyhoedd yn gyffredinol a hefyd yr amgylchfyd.
Ar hyn o bryd mae Darren yn gweithio ar Ffordd Liniaru'r Porth yn Rhondda, ac yn sicr mae'r datblygiad hwn mewn dwylo medrus gyda Darren wrth y llyw. Wrth ymgymryd â'r prosiect hwn, mae Cwmni Costain yn ôl ei arfer yn gweithio'n agos iawn â'r gymuned leol. Er mwyn hybu'r berthynas honno, trefnwyd cyngerdd yn y Porth yng nghwmni Kathryn Jenkins, Castell Nedd. Er taw hi oedd y prif westai, seren y noson oedd Rhiannon, merch hynaf Darren a Bethan a chwaer Angharad, wrth iddi gael ei galw mlaen i gyflwyno tusw o flodau i'r gantores enwog.
Mewn amser byr mae Darren wedi dod â chlod i'w hunan ac i Gwmni Costain, sydd wedi elwa'n sylweddol o'i ddoniau amlwg a'i wasanaeth iddynt. Nid yw'n syndod felly i Costain ei ddyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Adran Priffyrdd Cenedlaethol y cwmni yn ddiweddar.
Yn naturiol, mae Darren yn cael boddhad mawr o'i waith. Ceisia ymlacio wrth dreulio amser gyda'i deulu hyfryd, ac ar draws y cyfan oll, mae e' wedi codi llawer o arian ar gyfer achosion da wrth iddo gymryd rhan yn marathonau tebyg i'r un yn Llundain, a her y tri phigyn sef Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis yng nghwmni ei frawd yng nghyfraith Gwyn, gŵr Miranda.
Does neb ag unrhyw hawl ar lwyddiant. Mae amodau i lwyddiant, sef gwaith caled ac ymroddiad er enghraifft, nodweddion amlwg iawn ym mherson Darren a hefyd cefnogaeth anfesuradwy ei anwyliaid. Darren fyddai'r cyntaf i gydnabod ei ddyled mawr i'w deulu a'i ffrindiau am bob cefnogaeth ar hyd ei yrfa. Cofiai yn arbennig iawn cyngor datcu Rhydygwin iddo flynyddoedd nôl:
"Aim high, there is plenty of room". Yn sicr mae Darren wedi cyrraedd y brig ac wedi ennill ei blwy ymhlith peirianwyr mwyaf dawnus ei ddydd.
Gareth Hopkin