Wrth ymweld â Pharis, mae rhywun yn ymdrechu i daro heibio holl fannau adnabyddus y ddinas brydferth hon: Notre Dame, Sacre Coeur, y Mona Lisa yn amgueddfa'r Louvre, i enwi ond ychydig. Ond anghofiwn yn fynych mai ym Mynwent Pere Lachaise y claddwyd un a fu'n gantores fyd enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Madam Adelina Patti. Clywir yn aml am ei gyrfa canu anhygoel ac am ei chraffter fel menyw fusnes, ond anfynych y sonnir am flynyddoedd olaf ei hoes yng Nghastell Craig y Nos.
Erbyn 1909, roedd Madam Patti wedi ymddeol i bob pwrpas a nifer ei staff yng Nghraig y Nos wedi gwtogi i ddeunaw: yn eu plith ei Ffrancwr o chef a phedwar garddwr. Ei pherfformiad cyhoeddus olaf oedd i gefnogi achos y Groes Goch yn Neuadd Albert yn Llundain yn 1914 pan oedd hi'n 71 oed.
Wedi ei marwolaeth ar Fedi 27ain 1919, peraroglwyd ei chorff ym mherfeddion castell Craig y Nos. Gorweddodd ei chorff yn ei chapel preifat yn ei chartref ym mlaenau Cwm Tawe tan Hydref 24ain y flwyddyn honno. Aethpwyd â'i chorff wedyn i orwedd yn Eglwys Sant Cynog, Ystradgynlais ac o'r fan honno i Eglwys Gatholig Kensal Green yn Llundain er mwyn i'r byd gael cyfle i dalu teyrnged iddi.
Yn ôl ei hewyllys, cludwyd ei chorff a'i gladdu yn agos i fedd ei hoff gyfansoddwr, Rossini ym mynwent Pere Lachaise ym Mharis. Yma, ar gyrion Paris, ceir beddau enwogion lu o fyd cerdd gan gynnwys Faure, Bizet, Maria Callas ac Edith Piaf, ac yn wahanol i holl feddrodau'r fynwent hon, carreg ddu blaen sy'n nodi gorffwysfa olaf Adelina Patti.
Enfys James a Cynthia Davies fu'n ymweld â bedd Adelina Patti ym Mharis.
|