91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Cyn-ddisgyblion o'r 1950au Y Dathliad Mawr
Tachwedd 2006
Hanes Ysgol Rhiwfawr, Abertawe wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant ag aduniad mawr.
Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 10, agorodd Ysgol Rhiwfawr ei drysau i groesawu torf anferthol o ffrindiau a oedd yn awyddus i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol gyda ni. Daeth ymwelwyr o bob oedran ac o wahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, rhai yn teithio cannoedd o filltiroedd. Y person hyna oedd cyn ddisgybl 94 oed a deithiodd yr holl ffordd o Dregaron.

Roedd gan bob un ohonynt stori i'w hadrodd am eu dyddiau hapus yn yr ysgol, a braf oedd gweld cymaint o bobl yn llenwi bob twll a chornel, yn pori dros hen luniau, yn cwrdd â hen ffrindiau ac yn rhannu'u hatgofion pleserus. Roedd yn ddiwrnod bendigedig.

Ar nos Sadwrn, Mehefin 10, aethom i'r Stadiwm Liberty yn Abertawe i gynnal ein cinio i ddathlu'r canmlwyddiant. Bu'r noson yn llwyddiannus tu hwnt gyda dros 160 o bobl yn llenwi'r "Swansea Suite." Bu'r bwyd yn safonol, yr adloniant "Boys on the Hill" yn wych, y gwobrau raffl yn neilltuol o dda a'r awyrgylch yn ardderchog. Anrhydedd oedd cael cwmni cynrychiolwyr o'r 20au hyd at heddiw, gan gynnwys cyn ddisgyblion, staff a ffrindiau'r ysgol.

Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni, naill ai yn yr ysgol yn ystod y dydd neu yn y Stadiwm yn ystod y nos, yn ogystal â'r rhieni sydd wedi ysgrifennu eu hatgofion yn ein llyfr canmlywyddiant a noddwyr y llyfr. Mae pob un ohonynt wedi bod yn gefnogol dros ben.

Rydym hefyd yn ddiolchgar tu hwnt i'r pwyllgor dathlu a weithiodd mor galed i sicrhau bod y gweithgaredd yn llwyddiannus, yn enwedig Mrs Nest Davies, cyn-bennaeth Ysgol Rhiwfawr a chadeirydd y pwyllgor am ei harweiniad a'i gwaith di-ddiwedd ers mis Tachwedd. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy yn hanes Ysgol Gymraeg Rhiwfawr.

Mae'r llyfr dathlu ar werth yn yr ysgol ac mae'n costio £3. Cysylltwch â'r ysgol ar (01639 830651) os ydych am brynu copi.

Os hoffech adael neges i ni, croeso i chi ymweld â'r tudalen ymwelwyr ar wefan yr ysgol. Cyfeiriad gwefan yr ysgol yw:- www.rhiwfawr.ik.org


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý