Ac wedi'r geni y Duwdod yn sugno'r fron - gall unrhyw beth fod yn fwy dwys na hyn?Ac wedi'r bwydo trodd y gair yn ochenaid tawel bodlon - gall unrhyw beth fod yn fwy o ddirgelwch na hyn? Ac wedi'r ochenaid, cydiai'r fam yn y bysedd celfydd oedd unwaith wedi llunio mynyddoedd a naddu creigiau - gall unrhyw beth fod yn fwy o ryfeddod na hyn? A'r llygaid trwm yn cau - gall unrhyw beth fod yn fwy heddychlon na hyn? A'r fam yn ei anwesu'n gynnes - gall unrhyw beth fod yn fwy cariadus na hyn? A'r tad yn gwylio'n ofalus - gall unrhyw beth fod yn fwy urddasol na hyn? A Duw yn gwenu'n dyner - gall unrhyw beth fod yn fwy tangnefeddus na hyn? Ond heblaw am Joseph gwyddai neb arall am boen, dioddefaint a llawenydd Mair. Oni bai am griw bach o fugeiliaid oedd yn digwydd bod ar ddihun, doedd neb arall wedi uno i ganu gyda'r angylion, hyd yn oed os oeddent ychydig mas o diwn. A digwyddodd i dri dieithryn mewn gwlad bell edrych i fyny a sylwi ar ryw olau anghyffredin yn yr awyr neu ni fyddai neb wedi bwrw golwg ar y seren yn llithro heibio. Felly yn nhawel ddinas Bethlehem, cymerodd Duw ei le ynghanol y ddynoliaeth. Ac mae wedi bod yn ein canol ni ers hynny. Gobeithio'n wir, y bydd y Nadolig hwn yn gyfle i bawb ohonom blygu'n isel er mwyn cael trem ar Waredwr byd, ac yn ei ochenaid, i ni wybod o'r newydd bod cariad yn drech na chasineb, bod tangnefedd gan fil o weithiau yn rhagori ar rwygiadau, a bod bywyd yn eiddo i bwy bynnag sy'n cyfri lesu'n frawd a Duw'n Dad. Nadolig Llawen.
Ymddangosodd yr erthygl hon ym mhapur bro Llais yn Rhagfyr 2004.
Mwy o erthyglau Nadoligaidd
|