![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Warsaw, Gwlad Pwyl](/staticarchive/99e85613997c12423d7f40b1b233f2954401bdf2.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Ymweld â Gwlad Pwyl Gorffennaf 2002 Yn ystod gwyliau'r haf bydd tri aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Ystalyfera yn teithio gydag Urdd Gobaith Cymru i gartref plant yn nhref Legnicia yng ngwlad Pwyl. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Bwriad yr ymweliad yw cymdeithasu, gwneud ffrindiau a gwneud ychydig o waith i wella safon byw y plant.
Bydd Cerith Jones, Rhys Owen a Martyn Williams yn gadael De Cymru ac yn cychwyn ar y daith hir i Wlad Pwyl ar Orffennaf 19.
Bydd saith disgybl arall o Ysgolion Rhyd y Waun, Plasmawr a Gwynllyw yn mynd gyda nhw ar y daith.
Codi arian Ers wythnosau bellach mae'r disgyblion wedi bod wrthi'n codi arian er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol yn y cartref sydd wedi ei leoli yn un o rannau tlotaf y wlad.
Maen nhw'n derbyn gwerth deg punt y mis gan y llywodraeth i ddilladu, bwydo ac addysgu'r plant, felly mae'r arian a gesglir yma yng Nghymru yn hollol bwysig.
Gyda'r arian a gasglwyd llynedd llwyddwyd i brynu llawer o nwyddau angenrheidiol i'r cartref, gan gynnwys cyfrifiaduron, peiriant ffacs a llungopïwr.
Llwyddwyd i drawsnewid un ystafell yn gegin newydd er mwyn i'r bobol ifanc yn y cartref ddysgu sut i edrych ar ôl eu hunain pan ddaw'r amser iddyn nhw adael y cartref a chwilio am waith.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|