Yn gyntaf cafwyd ymateb a oedd â chysyll¬tiad agos â Chwm Tawe a diolch i Vivian Davies amdano. Mae'r ymateb a gefais oddi wrth Mr Davies yn cyfeirio at enw lleol ar y barcud (Red Kite). Fel hyn yr ysgrifennodd Mr Davies ataf. "Gwelais y barcudan y tro cyntaf yng Nghwm Tawe yn 1974 pan oeddwn yn cerdded o dan Grib y fan rhyw filltir o'r llyn ... Gofynnais i hen fugail oedd tua 90 mlwydd oed os roedd yn gyfarwydd â'r barcud. Roedd yr enw yn meddwl dim iddo, ond pan ddisgrifiais yr aderyn iddo, dywedodd ar unwaith "Chi'n siarad am yr hebog gwt fforchog".
Cefais enwau tebyg i hwn ar lafar ledled Cymru - yn cyfeirio at y gynffon fforchog ond dyma'r enw cyntaf y cofnodais lle cyfeirir at yr aderyn fel 'hebog'. Mae'r enw ynddo'i hun yn ddiddorol ond mae hefyd gwerth hanesyddol i'r cofnod yma.
Fel y gwyddom cafodd y barcud ei erlid bron hyd at ei ddiflaniad yma yng Nghymru ond trwy ymdrech a chadwraeth fe lwyddwyd i adfer y boblogaeth ac mae ei niferoedd ar gynnydd. Dengys y cofnod ei fod i'w weld yng Nghwm Tawe yn ystod 1970au, cyfnod pan oedd ei niferoedd yn parhau yn isel iawn ac o bryder cadwriaethol.
O gymryd y cofnod yma o 1974 a bwrw'r blynyddoedd yn ôl 90 o flynyddoedd (sef oedran yr 'hen fugail') fe'n teflir i flynyddoedd ola'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - tua'r 1880 a 1890au. O bosibl, roedd y barcud yn olygfa yng Nghwm Tawe bryd hynny, sef y cyfnod cyn i'r aderyn gael ei erlid o ddifrif ac hefyd fe all bod yr enw yma wedi cael ei ddefnyddio ar lafar am gyfnod cyn hynny - dyna dros ganrif o gyfoeth iaith lafar.
Daeth yr ail ymateb o gyfeiriad Iolo Williams a diolch iddo yntau. Roedd gan Iolo ddau enw a oedd yn cael eu cysylltu â'r cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr pan roedd dogni bwyd a chaledi bywyd yn rhan o fywyd beunyddiol yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r enwau yma yn perthyn i ardal Llanwddyn ym Maldwyn.
Yr enw cyntaf a gefais gan Iolo oedd Bran Brecwast sef enw ar yr Ydfran (Rook). Mae'n debyg ei bod yn arferiad i fwyta'r fran yma i frecwast. Caed yr un arferiad ar rai Ystadau mawr yn yr Alban lle roedd bwyta "Rook Pie" yn gyffredin.
Yr ail enw oedd Colomen Cinio sef enw lleol ar yr Ysguthan (Woodpigeon) arferwyd bwyta hon i ginio. Yr arferiad oedd clymu cywion i frigyn neu gangen coeden a chael y fam aderyn i fwydo'r cyw ar 'pigeon milk'. Roedd hyn yn sicrhau bod y cig yn gig cyfoethog a maethlon dros ben. Wrth gwrs ni fyddai arferion fel hyn yn gael eu goddef heddiw ond mae'r ddau enw yma yn adlewyrchu cyfnod mewn hanes ac yn dangos cyfoeth iaith lafar mewn ardal arbennig.
Diolch am yr ymateb. Os oes gan unrhyw un o'r darllenwyr enwau eraill beth am eu hanfon i mewn.
Dewi Lewis.
|