Gwnant hyn yn arbennig wrth i Gadeirydd y Cyngor yn flynyddol gomisiynu Cerdyn Nadolig. Llynedd gofynnodd y Cynghorydd Bessie Burns am lun gan Julie Roberts. Cafodd y Cynghorydd Bessie Burns ei hethol unwaith yn rhagor ac mae'n ôl yn y tresi. Rwy'n sicr fy mod i'n ei hadnabod o flaen pawb arall o fro'r Rhwyd a minnau'n ei chofio hi'n dod at ei nain am wyliau i Laniestyn, Llŷn; hithau ar y pryd ond geneth ysgol. Annibynwyr o ddechrau annibyniaeth oedd ei hynafiaid ac addolwyr brwd yng Nghapel yr Allt, Capel Rehoboth. Mynychai hithau'r capel bob haf, a ninnau i gyd yn edrych arni am ei bod hi'n 'hogan newydd' yn y capel. (Cyfarfod gwraig o Glynnog ychydig flynyddoedd yn ôl, ac wedi iddi ddeall lle'r oeddwn i'n byw gofynnodd a oeddwn yn adnabod Bessie. Dywedais fy mod i'n ffrind iddi. Er fy mawr syndod dywedodd ei bod hi'n ei chasáu, er ychwanegodd: "Wnes i rioed ei chyfarfod hi". Allwn i ddim deall hyn hyd nes i'r wraig egluro fel y byddai Prifathro yr Y sgol Gynradd yn mynd i'w ddesg pan wylltiai wrth y dosbarth a rhoi 'llythyr-gwaith Bessie' o dan eu trwynau er mwyn iddynt geisio efelychu ei gwaith cywir a thwt. Cadwodd ei llyfrau yn ei ddesg hyd ddydd ei ymddeoliad). Un o ardal Y Rhwyd yw Julie Roberts gyda'i diweddar nain, Mrs Annie Roberts yn chwaer i'r ddiweddar Mary Lewis (Mrs L.). Magwyd Julie yng Nghaergybi a mynychu Ysgol y Parc. Yno y cychwynnodd ei diddordeb mewn arlunio. Datblygodd hyn yn yr Ysgol Uwchradd (Holyhead High erbyn hyn!) a dyma'r pwnc a ddewisodd yn y Coleg. Peintio tirwedd yw ei hoffter a hynny mewn dyfrliw. Mae'n derbyn llawer comisiwn, fel llun Swtan i Gerdyn Nadolig 2003. Hefyd mae'r rhai sy'n dymuno cael llun o'u cartrefi yn gwsmeriaid da iddi. Gwel hen adfeilion a pheiriannau fferm yn wrthrychau delfrydol i'w rhoi ar gynfas. Yn ddiweddar dechreuodd arbrofi gydag olew yn ogystal â chyda phin ac inc. Mae'n rhaid i bob artist gael man i ddangos ei waith. Rydym yn ffodus o gael Melin Llynnon ym mro'r Rhwyd gydag ystafell ddelfrydol o dan y caffi i arddangos pob math o grefftau. Mae'n siop fendigedig i werthu cynnyrch cartref. Yno ceir gwaith coed, lledr, dafedd, cŵyr, gwydr, llechen ynghyd a phethau i'w bwyta fel jam a mêl a'r cynhyrchwyr yn eu tro yn troi'n siopwyr. Mae'n fan delfrydol i Julie arddangos ei lluniau a'u gwerthu. Mae Ynys Môn yn ffodus fod ganddi Oriel lle ceir arddangosfeydd; a siop gynhwysfawr. (Er mor wych yw'r Oriel rwy'n dal i rygnu ymlaen am un diffyg sydd yno, sef man diogel i arddangos trysorau Môn. Yn fy llith ar Eglwys Llanfigael byddaf yn cyfeirio at y Cwpan Cymun a'r Plât a ddaeth yno yn 1574. Y cwestiwn a ofynnir imi yw, "Gawn ni eu gweld nhw?" Yr ateb plaen a roddaf fydd, "Na chewch". Af ymlaen i egluro eu bod yn 'ddiogel' yng nghrombil un o fanciau Caergybi a heb obaith gweld golau dydd byth mwyach. Y tristwch mawr yw fod yna ugeiniau o drysorau'n cael eu cadw'n 'ddiogel' a phlant Môn o genhedlaeth i genhedlaeth yn cael eu hamddifadu o'u hetifeddiaeth). Edgar Jones
|