A hynny oherwydd dygnwch aelodau'r Gymuned wrth ofalu na chai un o adeiladau harddaf Môn fynd yn adfail yng nghanol eu pentref. (Newydd da am Eglwys Llanfwrog hefyd sy'n cael ei hatgyweirio gan ŵr o Llundain). Mae gwreiddiau Eglwys Llanddeusant yn ymestyn i lawr dros fil a hanner o flynyddoedd. Gwyddom hyn oherwydd iddi gael ei chyflwyno i ddau Sant Lladin, Marcellus a Marcellinus. Ni cheisiwyd Cymreigio'u henwau, ond dweud mai Llan dau Sant ydoedd. Bu 1868 yn garreg filltir arall yn hanes y pentref oherwydd ar 12 Tachwedd cysegrwyd eglwys newydd yno. Ddechrau'r flwyddyn galwyd y Cyngor Eglwysi ynghyd i drafod dyfodol yr hen eglwys. Yr oedd mewn cyflwr drwg ac yn llawer rhy fach gyda'r boblogaeth yn cynyddu'n flynyddol. Pasiwyd i gael eglwys newydd ac addawodd y person y buasai ef yn rhoi darn o 'dir y person' i'w hadeiladu arno rhag gorfod amharu ar y beddau. Oes yr uchelwyr cyfoethog oedd hi a gosodwyd y garreg sylfaen gan wraig y Commissary General H. Stanley Jones, Sgwier Llynon. Anodd credu, ond oherwydd yr haf bendigedig, cwblhawyd y gwaith erbyn Tachwedd. Rhaid cofio nad y tywydd yn unig achosodd hyn. Yn ôl yr hanes gwirfoddolodd 107 o ffermwyr y fro i gludo cerrig o chwareli cyfagos. Defnyddiwyd marmor Môn yn y ffenestri ynghyd â charreg-dywod-coch. Yr unig beth a gadwyd o'r hen eglwys oedd y fedyddfan, sydd o'r ddeuddegfed ganrif, ac yn un o'r rhai hynaf ym Môn. Mae'n rhaid fod diwrnod y cysegru yn ddiwrnod i'w gofio. Yr adeilad yn orlawn a'r Esgob wedi dod â Chôr yr Eglwys Gadeiriol gydag ef ynghyd â'r organydd. Daeth offeiriaid o bell ac agos, ac yn yr orumdaith gwelwyd pawb a oedd yn rhywun ar y pryd ym Môn. Erbyn 1968 roedd yn amser i'r Eglwys Newydd ddathlu ei chan mlwyddiant. (Cadwodd Mrs Gwyneth Jones (Bennett) lyfryn yr achlysur). Roeddwn i yn y gwasanaeth hwnnw. Y person oedd Canon Eurwyn Weldon Thomas, a gafodd ei fagu led cae o'm cartref yn Llŷn, ac atgoffwyd fi o'r llith yng ngwasanaeth y cysegru gael ei darllen gan berson Bodedern, wel curad Bodedern mewn gwirionedd, gan mai Sgwier Treiorwerth oedd y person, ac yn berson ar sawl eglwys arall ym Môn, a churadiad yn byw ar y gwynt ganddo i wneud ei waith. Y Parchedig E. Jones oedd yntau, a chefais y fraint o'i efelychu gan mlynedd yn ddiweddarach. Eglwys i "bawb o bobl y byd" fydd Eglwys Marcellus a Marcellinus o hyn ymlaen, a'i dyfodol am gan mlynedd eto yn ddiogel yn nwylo plant a wyrion y rhai o'r gymuned a fu'n gweithio mor galed i'w chadw ar agor. Bydd gwynt Môn hefyd yn parhau i droi esgyll y melinau cynhyrchu trydan, sydd i'w gweld ar glawr Calendr Y Rhwyd ac yn amlwg ddim yn newydd ddyfodiad drwg i gyd, yn enwedig pan yw Eglwys Llanddeusant yn y cwestiwn! Gan Edgar Jones
|