Un munud dyna lle roeddem ni - noson oer yn Chwefror '79, criw o laslancesau, mamau ifanc rhan amlaf, newydd roi'r plant yn eu gwelyau gan adael tadau petrusgar yn brefu ar ein holau,
"Fyddi di'm yn hir efo'r miri Merched y Wawr 'ma, na fyddi?"
Mynd roeddem gydag ysbryd arloesol i sefydlu rhywbeth newydd - cangen Merched y Wawr yn Y Fali. Na, fuom ni ddim yn hir y noson honno, ond diawcs, rydan ni wedi cadw ati hi byth ers hynny! Dyma ni - yr un glaslancesau ond yn ein preim bellach, ac yn dathlu 30 mlynedd efo'n gilydd.
Nos Lun, 6 Gorffennaf roedd pob un ar ei gorau ac yn barod i rocio'i socs mewn parti i ddathlu'r achlysur yn Nhafarn y Gors. Cyn tanio'r rhialtwch, manteisiodd Audrey Owen ar y cyfle i ddymuno Pen Blwydd Hapus, nid yn unig i'r gangen, ond i Marian Jones sydd hefyd yn dathlu pen blwydd arbennig, ac i ddymuno'n dda i Olwen Williams a Gwyneth Hewitson
sydd ill dwy ar fin ymddeol fel athrawon ac yn cychwyn pennod newydd a chyffrous yn eu hanes.
Gwledd i'r synhwyrau oedd gweithgareddau'r noson - gwledd o fwyd blasus, gloddest o hwyl a chan yng nghwmni Hogia Bodwrog, ac ymgolli yng ngwledd yr atgofion melys o'r 30 mlynedd a fu. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cydorfoleddu yn ein llwydd¬iannau a chydwylo yn ein trychinebau; wedi difrifoli ym materion tyngedfennol ein hoes, ac ymgolli mewn digrifwch ac ysgafnder; wedi ymgynefino gyda'r zeitgeist ond heb ei ddilyn yn slafaidd; wedi canu carolau neu ddawnsio gwerin; wedi ymlafnio wrth fowlio deg a chwysu dros waith llaw; wedi hel traed, a hen hel boliau wrth
gwrs, ac wedi croesawu gwesteion o bob perswad ac o bob cwr o
Gymru.
Ar ddiwedd y noson diolchwyd yn gynnes iawn i Ann Hilyer am baratoi a chyflwyno teisen pen blwydd odidog i'r gangen, ac i Jean Roberts am osod blodau hardd ar y byrddau. Mavis Swain Williams, Ann Marie Le Gall, Anne Jones a Valmai Jones enillodd y gwobrau lwcus. Byddwn yn cychwyn degawd newydd yn hanes y gangen ar 7 Medi gyda noson yng nghwmni'r ffotograffydd Pierino Algieri. Edrychwn ymlaen at 2019 - a dathlu'r 40 yn ein steil idiosyncratig ein hunain!
|