91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Mr Gwyn Jones a'r Parchgedig Ddr Dafydd Wyn Wiliam Cymdeithas Morrisiaid Môn
Chwefror 2007
Y Sadwrn olaf yn Hydref 2006, heb wenau'r haul, gwelwyd aelodau Cymdeithas Morrisiaid Môn wedi ymgynnull yn Eglwys blwyf Bodewryd, sydd, fel y gwyddys, o fewn tafliad carreg i Blas Bodewryd.

Ers pum canrif a mwy bu'r teulu bonheddig a drigiannai yn y plasty hwn yn noddwyr i'r beirdd - Lewys Môn, Gruffudd Hiraethog, Siôn Brwynog ac eraill.

Cofiwn hefyd am gefnogaeth ddeallus Dr Edward Wyn (1861-1755) o Fodewryd i gylch y Morrisiaid ac i Oronwy Owen ifanc.

Croesawyd y siaradwr, sef Mr Gwyn Jones, Dwyran, a'r aelodau oll gan Gyfarwyddwr y Gymdeithas, y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam.

Olrheiniodd Mr Gwyn Jones hanes Syr John Pritchard Jones (1841-1917), Niwbwrch.

Siaradodd yn huawdl a diddorol am y gwrthrych, gŵr a anwyd yn nhyddyn Ty'n Coed, Niwbwrch, yn un o saith plentyn Mr a Mrs Richard Jones.

Bu farw ei fam pan oedd ef yn bedair oed. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgoldy Eglwys Llangeinwen, cyn iddo fwrw prentisiaeth yn ddilledydd yn siop Nelson, Caernarfon.

Bu wedyn yn siop J. E. Robert, Bangor hyd saithdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn 1874 cafodd waith ym masnachdy Dickins, Smith & Dickins, 232 Regent St, Llundain.

Yn fuan dringodd i swydd prynwr, ac ni fu fawr o dro a chyrraedd y brig yn rheolwr a chyfarwyddwr y masnachdy.

Seiliwyd ei bartneriaeth yn y busnes yn 1878 a newidiwyd enw'r cwmni i 'Dickens & Jones'.

A'r busnes yn ddiogel dan ei law gwnaethpwyd £60,000 o elw'r flwyddyn gyntaf a dilynwyd hynny gan elw blynyddol.

Rhaid oedd i'r cwmni ehangu a phrynwyd adeiladau cyfochrog eraill yn ymestyn o 232 hyd at 244 Regent St. Ac yntau ar binacl ei lwyddiant, bu farw ei briod yn 43 oed yn 1891.

Aeth dros ddegawd heibio cyn iddo briodi eilwaith a merch o Hampstead, hi'n eglwyswraig ac ef yn parhau'n aelod gyda'r Methodistiaid fel ei dad o'i flaen a fu'n flaenor parchus a'r enwad yn Niwbwrch.

Rhaid oedd bwrw ymlaen a ffyniant y cwmni yn Llundain, ond er ei holl lwyddiant nid anghofiodd ei gefndir ym Môn.

Cofiai mor wael oedd cyfleusterau addysg yn ei fro enedigol, a thlodi cyffredinol yr ardal yn y cyfnod pan oedd ef yn blentyn.

Penderfynodd ddefnyddio rhan o'i gyfoeth tuag at wella'r sefyllfa yn Niwbwrch.

Trefnodd i godi clamp o adeilad a fyddai'n cynnwys llyfrgell, ystafell Darllen, sustem arbennig i gofnodi llyfrau, neuadd gyhoeddus, swyddfeydd, ystafell i'r merched, ac ystafelloedd i ymlacio a pharatoi arlwy, hefyd chwe bwthyn ar y safle i'r henoed a'r anghenus yng nghylch Niwbwrch.

Gosodwyd y garreg sylfaen ar 26 Awst 1902 a dywedir fod y rhan fwyaf 0 drigolion y cylch yno.

Erbyn 1905, ar gost o tua £14,000, roedd 'Sefydliad Pritchard Jones' wedi ei gwblhau.

Cyflwynodd yntau ef yn anrheg i'w hen ardal. Ei gymwynas fawr arall, yn ddiweddarach, oedd noddi'n llawn adeiladu Neuadd fawr ar safle Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a'i chyflwyno'n rhodd, sef Neuadd Pritchard Jones heddiw.

Fe'i anrhydeddwyd yn Farchog yn ddiweddarach. Bu'n gymwynaswr hael i Golegau'r Brifysgol ym Mangor ac Aberystwyth, i Gymdeithas y Cymrodorion, i fudiadau llai, a nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru.

Gorwedd ei lwch ym Mynwent Eglwys Pedr Sant, Niwbwrch.

Ar ran yr aelodau cyflwynodd y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam ddiolch i'r siaradwr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý