Llwyddiant Mehefin 2010 Bu cyhoeddi Eisteddfod Môn 2011 ym Mryngwran ym mis Ebrill, lle urddwyd chwe aelod newydd i Orsedd Beirdd Môn.
Yn eu mysg oedd Ann Wyn Owenn, Eran, a urddwyd i'r wisg las gan y Derwydd Gweinyddol, Eurfon a Meistres y Gwisgoedd, Gladys Bodwradd (Gladys Pritchard, Llaingoch). Ei henw barddol yw Ann Caerwyn.
Bu Ann yn fuddugol hefyd yn Eisteddfod Môn 2010, Gŵyl y Llys yn Llangefni ym mis Mai gan ddod yn 1af am 'Ddyddiadur Pythefnos'.