Er mwyn codi pres at Eisteddfod yr Urdd sydd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn dros gyfnod y Sulgwyn, penderfynodd y tri i reidio eu beics o Lundain i Gaergybi. Y tri oedd Gethin Edwards, Arwyn Williams a Marc Gibbs. Y targed oedd cwblhau y siwrna mewn tri diwrnod ac yn wir i chi dyna beth a wnaethpwyd. Cyrraedd Bryngwran tua hanner awr wedi pedwar ar y trydydd diwrnod a tyrfa fawr yn eu disgwyl. Roedd hwyl reit dda arnynt ond wir ar ôl gweld seti'r beics tybiaf y byddant yn dioddef yn ystod y dyddiau nesaf!!! Diolch yn fawr i chi hogia am eich ymgyrch a rhoi hwb i gronfa'r Urdd Bryngwran a'r Cylch. Os oes rhywun yn dymuno cefnogi'r hogia ac sydd heb gyfrannu i'r gronfa galwch i mewn i Swyddfa'r Post Bryngwran. Rhaid hefyd ddiolch i'r back up boys, Cwmni Beics Menai, am gael benthyg y beics ac hefyd y fan i gario bwyd a Vaseline!!!! Hefyd diolch i Aled a Keith a oedd yn trafeilio tu ôl iddynt yn y fan.
|