Gwn fod rhai o'm ffrindiau y barod yn paratoi at y Nadolig nesa nid oherwydd eu bod wedi cyfrif faint o ddyddiau siopia sydd ganddynt ond oherwydd y bargeinion sydd i'w cael yn y sêls. Does dim byd gwaeth i godi pwysau gwaed un na phrynu rhywbeth cyn y Nadolig ac yna dychwelyd i'r un siop ychydig ddyddiau yn ddiweddarach a chael y prisiau wedi llwyr ostwng.Mae Llanfachraeth yn mynd yn fwy addurnedig bob blwyddyn ac yr wyf innau newydd brynu mwy o oleadau erbyn y flwyddyn nesaf. Ar un adeg ni fuaswn wedi cymryd y byd a gwneud y fath beth, ofergoeledd efallai, ond credwn dylai neb gymryd yn ganiataol y byddai fyw ymhen y flwyddyn. Mae hyn wedi llwyr ddiflannu o'm cydwybod yn ddiweddar wrth imi weld fy mrodyr yn y Ffydd hefo dyddiaduron pum mlynedd ac yn gwybod gyda sicrwydd lle byddant yn pregethu ar Sul arbennig yn y flwyddyn 2007. Er nid yw'r Pader wedi newid, a rydym yn dal i weddïo am ein bara beunyddiol'. Dywedodd y Frenhines hithau yn ei sgwrs ar brynhawn Nadolig mai'r unig ffordd y gall hi ddal ymlaen yw drwy godi yn y bore a wynebu'r diwrnod hwnnw, gyda nerth Duw'. .
Ddim fel yr oedd hi ...
Rydym wedi crwydro ymhell o ddyddiau ieuenctid fy mam pryd y dechreuai hi wneud mins peis a berwi pwdin ar Noswyl y Nadolig a'm taid yn mynd i winllan y Plas am foncyff i gadw'i dylwyth yn gynnes dros yr Wyl. Rwy'n dal i gofio beth ddywedai plant Ysgol Cemaes wrthyf, pan fyddai eu rhieni'n Dystion Jehofa, "Rydym yn cael derbyn presantau ond ddim yn cael eu rhoi". Felly Llanynghenedl amdani i siopa y Nadolig nesaf!
Trysorur cardiau Dolig
Fodd bynnag, rwy'n gofalu bod tymor y Nadolig yn parhau am ddeuddeng niwrnod, hynny yw, hyd Noswyl yr Ystwyll, Ionawr y pumed, a chaf bleser mawr y noson honno wrth dynnu'r cardiau i lawr a darllen yn hamddenol y negeseuau sydd ynddynt; cofio hen ffrindiau a diolch am ambell un newydd. Er mor dderbyniol yw pob cerdyn fel arfer mae un neu ddau yn mynnu tynnu sylw. Eleni eto rwy'n hoff o'r cerdyn a dderbyniais gan y Parchedig John Rice Rowlands. Llun ydyw a gafodd ei dynnu gan Pen Waugh drwy'r bwa sydd yn wal Rufeinig Caergybi, heb fod nepell o Groes Geltaidd y Mileniwm.
Mae teithwyr wedi cerdded o dan y bwa hwn am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd ac wedi syllu ar yr union olygfa a geir ar y cerdyn am dros bum can mlynedd. Heddiw mae yna ddau fwa yno, ond credir mai un mawr oedd y fynedfa wreiddiol. Byddai r farchnad yn cael ei chynnal lle mae Croes Geltaidd y Mileniwm, ac mae'r enw 'Stryd y Farchnad' yn ategu hyn.
Pan gyrhaeddais i Gaergybi ni allwn ddeall pam yr oedd y farchnad yn 'Stryd Stanley', ond eglurodd rhywun mai yr hen farchnad oedd yn 'Stryd y Farchnad'. Hefo'r anifeiliaid mor agos at y porth llydan yn y wal Rufeinig gwaith anodd oedd eu cadw o'r fynwent ac felly adeiladwyd dau fwa gyda dwy ddôr arnynt. Roedd y coed i ddal yr wyth colyn yn dal yno mor ddiweddar â'r pumdegau.
Llun eglwys hefyd a gefais gan Olygydd Y Rhwyd,. Bedyddiwr cadarn arall, (mae 'cul' yn un o'r geiriau hynny, fel 'ethnig' a 'du' i w gochel heddiw, ond gwyddoch beth ydwyf yn ei feddwl!) Rwy'n ddiolchgar ohono a minnau ers bron i hanner can mlynedd wedi troedio i Lanfair yn Neubwll.
Ei frawd yng nghyfraith, Mr Gerwyn Williams, un o 'Gyfeillion Llanfair' a dynnodd yllun, a hynny ar yr eira. Rwy'n falch fod 'Ty Main i'w weld mor glir yn y cefndir oherwydd yno y byddwn yn gadael y Mini a cherdded ar draws y caeau gyda Del y ci, a phaned Vi mor fendigedig wedi imi ddychwelyd.
Edgar Jones