Os oedd Seremoni y Cyhoeddi yn arwydd o'r arlwy yna mae lle i gredu y byddwn yn canmol ac yn dathlu unwaith eto. Cynhaliwyd y seremoni ddydd Sadwrn, 15 Mai, ar b'nawn hyfryd o wanwyn ar gae Bryn Glas yng nghanol pentref Llanrhuddlad.
Cychwynnodd gorymdaith helaeth o Ysgol Cylch y Gam am 2 o'r gloch dan arweiniad Llywydd y Pwyllgor Gwaith, Idwal Parry yn cynnwys Swyddogion ac aelodau'r Is-bwyllgor, plant y Ddawns Flodau, aelodau Gorsedd Beirdd Ynys Môn a Llys yr Eisteddfod, ynghyd a Swyddogion ac aelodau cymdeithasau lleol a chymwynaswyr yr Eisteddfod.
Un o fechgyn yr ardal, Alwyn Samuel Hughes oedd yn seinio'r Corn Gwlad gydag arddeliad ac wedi'r seremonïau agoriadol cafwyd anerchiad o'r Maen Llog gan y Derwydd Gweinyddol, Huw Goronwy, oedd yn gydnaws iawn ag anrhydedd ei swydd.
Canwyd y Cywydd Croeso, gwaith y diweddar Richard Jones, Llanfechell, gan gôr o aelodau'r Pwyllgor Cerdd i osodiad gan Haf Morris.
Roedd cyfraniad y Ddawns Flodau gan ferched bach Ysgolion Cylch y Gam, Ffrwd Win, Llanfachraeth a Llanddeusant a chyflwyno'r Aberthged gan Catherine Williams, Llanfaethlu yn raenus iawn.
Traethwyd yr Arawd gan y Cyn-brifathro John Rice Rowlands yn ei arddull ddihafal. Barn gyffredinol oedd mai dyma'r areithiau gorau a glywyd o'r Maen Llog ers amser maith.
Estynnwyd gwahoddiad i Eisteddfod Cylch y Gam 2005 a chyflwynwyd y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Derwydd Gweinyddol gan Lywydd y Pwyllgor Gwaith. Lleisiwyd diolchiadau gan Mr Victor Hughes, Llywydd Llys Eisteddfod Môn. Dymunwn ddiolch o galon i'r Llys a'r Orsedd ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.
Mae'n dymuniadau gorau yn mynd i Mr Ellis Wyn Roberts sydd bellach wedi ymadael a safle'r Llywydd ac estynnwn ein diolch iddo am ei gymorth parod. Dymunwn rwydd hynt i Mr Victor Hughes sydd wedi gafael yn yr awenau. Byddwn yn falch o'i weld yn ein Pwyllgorau.
Derbyniodd Pwyllgor Croeso Eisteddfod Môn 2005 gontract i fwydo'r lluoedd ddaeth i Ffair Hen Greiriau ar faes Mona ddydd Sadwrn a'r Sul, 12 a 13 Mehefin. Roedd hon yn fenter ddewr ac yn golygu oriau lawer o waith caled. Gwych yw cael dweud iddi fod yn llwyddiant ysgubol. Llongyfarchiadau calonnog a diolch i'r Pwyllgor Croeso a gafodd gymorth parod o'r Pwyllgorau eraill ac ambell i ddyn hefyd!
Cynhaliwyd cyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith ar 7 Mehefin yng Nghanolfan Llanrhuddlad dan lywyddiaeth y Cadeirydd, Idwal Parry ynghyd â chynrychiolaeth dda o'r Is-bwyllgorau ac aelodau o Lys Eisteddfod Môn yn bresennol. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf ar ôl Seremoni'r Cyhoeddi, diwrnod llwyddiannus iawn, gyda'r tywydd mor fendigedig o braf a'r Cyngerdd gyda'r nos yn goron ar y gwaith, sydd yn rhoi hyder i ni am Eisteddfod lwyddiannus iawn yma mis Mai y flwyddyn nesaf. Estynnwn wahoddiad i bawb i'r ŵyl.
Mae gwaith codi arian tuag at y gost o gynnal yr Eisteddfod yn mynd ymlaen ac mae yna ragor o weithgareddau yn, ac wedi cael eu trefnu, i'r pwrpas.
Mae testunau am y cystadlaethau allan ac ar werth yma ac acw. Os oes yna rhywun eu hangen gallwch gysylltu â'r Ysgrifennydd, Owie Jones, Tremarfon, Llanrhuddlad - rhif ffôn 01407 730541 am wybodaeth.
Yr ydym ar hyn o bryd yn trefnu raffl tuag at y costau ac addewidion am wobrau da iawn wedi dod i law, ac fe fydd y tocynnau yn mynd ar werth tua diwedd mis Gorffennaf.