Galwodd heibio ddechrau'r flwyddyn, ac roeddwn yn falch iawn o'i weld yn edrych mor dda, ac yntau wedi bod yn bur wael llynedd. Mae'n esiampl i ni i gyd am ei ddygnwch.
Y tro hwn llun oedd ganddo, a hwnnw wedi ei fframio, ac fel y buasech yn disgwyl mae yna hanes iddo! Nofel, ac nid stori fer, wedi i mi holi Glyn!
Cafodd y pictiwr ei ddarganfod gan Mr Maldwyn Jones (Garej O.
R. Jones, Llanfaethlu).
Mae Maldwyn am ymfudo i Hen Siop, Llanfaethlu ac yno y cafodd hyd iddo. (Wrth glywed am yr Hen Siop daeth i'm cof mai dyma'r fan lle magwyd y diweddar David Lloyd.)
Ef oedd yr un a farnodd fy mod i'n haeddu trwydded gyrru modur wedi iddo fod gyda mi un bore braf o Awst hyd strydoedd Pwllheli, a hynny'n y pum degau.
Cyn dechrau'r prawf cefais fy holi ganddo a minnau'n dweud fy mod i am gael fy anfon yn gurad i Gaergybi.
Eglurodd yntau fod ei dad wedi bod yn Weinidog yn yr un fro.
Yn sicr, yn ôl fy nghyfoedion, a hwythau'n gorfod ail drio'r prawf, bu hyn o gymorth mawr i mi dderbyn trwydded wedi'r prawf cyntaf!
Ond mae'n rhaid fy mod i wedi gwneud un camgymeriad beth bynnag oherwydd rwy'n cofio i mi egluro ar y diwedd nad oeddwn i'n bwriadu gyrru ymhell o'm cynefin.
Ei ateb oedd, "Os rho i hon i ti fe gei di ddreifio yn Piccadilly"!
Fodd bynnag, pasiodd fi. Goleuaf gannwyll iddo pan fydd Llanfigael ar ei newydd wedd!)
Aelodau 'Undeb Dirwestol Llanfaethlu' Garreglwyd sydd yn y lIun. Cafodd ei dynnu gan C. Lavington, Photographer, Llannerchymedd'.
Mae Ledi Reade yn eistedd yng nghanol yr ail res o'r gwaelod.
Cyfeiria Mr Glyndwr Thomas ati yn Nabod Môn, "fel un a gysegrodd ei hynni i wasanaeth y Mudiad Dirwestol".
Yn ifanc aeth am wyliau i Sbaen gyda'm hen daid, Thomas Love lanes Parry, ysgwier Madryn, Llyn.
Ceir eu hanes terfysglyd yn y gyfrol, Sir Love's Adventure in Spain.
Ef oedd yr un a fu'n paratoi'r ffordd i sefydlu 'Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia', a dyna paham y ceir Puerto Madryn yn yr Ariannin.
Mae cloc mawr un o'r teuluoedd oedd ar Stad Madryn gennyf. Gadael popeth ar ôl fu hanes yr ymfudwyr druan.
Pan brynais i glwt o dir ar gae Roebuck cefais holl weithredodd y lle, a hynny oherwydd mai fi oedd y cyntaf i wneud.
Ynddynt eglurir bod Ledi Reade wedi morgeisio y rhan yma o Lanfachraeth i Ganon Trevor, Llanfaelog i'w galluogi i godi tri Reade House, ym Modedern, Llanfachraeth a Llanfaethlu.
Mae 'TÅ· Coffi', Llanfaethlu yn dal yn llewyrchus, a rhai'n dal i yfed coffi ynddo yn lie diod feddwol.
Yn sicr buasai Ledi Reade yn llawenhau wrth basio'r Black Lion y dyddiau hyn a gweld y ffenestri wedi eu bordio i fyny!
Mae'r Holland, Llanfachraeth wedi ei enwi ar ôl ei hen daid 'Holland Griffith', ond ni wireddwyd ei breuddwyd yno.
Daeth Glyn a Cherddi Mathew Bach i mi hefyd fel y gallwn ddarllen beth ganddo ef pan fu pleidleisio ym Môn yn 1961 ynglŷn ag agor y tafarndai ar y Sul.
Mae Cymry iawn yn credu
A hynny drwy eu ffydd,
Mai gorffwys a moliannu
Sydd raid y seithfed dydd.
Nid rhuthro mewn cerbydau,
Y nail! ar ôl y llall i chwilio am dafarnau,
Sef noddfa teulu'r fall.
Er mae Mathew yn cyfaddef wrth ei ffrind Alltud y Garn yn yr un gerdd, 'Nid ydwyf yn ddirwestwr', ond 'Dim agor drws y dafarn, y Sul, i blesio'r Sais'.
Yn sicr mae disgynyddion y rhai sydd yn y llun yn dal yn y fro. Os gwelwch yn dda gadewch i mi wybod pwy ydych.
Edgar Jones