Fe agorwyd estyniad i'r maes sydd er cof am yr annwyl Martin gan Tonwen, Brenhines Ffair Mechell a Mr Robin Grove-White, Brynddu, oedd wedi rhoi darn ychwanegol o dir er mwyn ehangu'r parc. Mae wedi cymryd tair blynedd, ond o'r diwedd mae'r parc yn Llanfechell wedi ei orffen.
Gwnaed hyn yn bosibl gydag arian o Fenter Mechell, y Cyngor Cymuned, Heddlu Ategol Amlwch, Trefi Tac1us a Morrisons, Caergybi, ond mae'r diolch pennaf i Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ynghyd a'r Loteri am grant o
ll
£50,000 i alluogi'r gwaith gael ei gwblhau.
Gweledigaeth y diweddar Martin Owen, y Garej, oedd ail wneud y parc a bu i'r plant enwi'r parc er teyrnged a choffadwriaeth ar ei ôl.
Dadorchuddiwyd carreg hardd 'Marmor Mona' a'r geiriau 'Cyd-chwarae, Cyd-fyw' arni yn rhodd gan deulu Maes Mawr.
Mae Maes Martin yn awr yn faes chwarae amlbwrpas a lle chwarae i blant o bob oedran a rhai hÅ·n sydd yn llawn dychymig.
Fe weithiodd y criw gwirfoddolwyr a'r plant yn hynod galed yn peintio a chlirio'r safle er mwyn cael y parc yn barod i'w agor yn swyddogol.
Fe ffurfiwyd cylch ieuenctid gan Menter Mechell i orchwylio Maes Martin a bu ei brwdfrydedd yn esiampl glodwiw i'w cymuned.
Fe gynhaliwyd twrnament pêl-droed pump bob ochr i ddathlu'r achlysur a chyflwynodd Mr Mick Kemp, rheolwr Morrisons, Caergybi, fedalau i bob un o'r chwaraewyr.
Diolchwyd i bawb am eu campwaith ac am ddiwrnod llwyddiannus iawn gan y Cynghorydd Tom Jones.
Dywedodd yr Heddwas PCSO Dennis Owen fod Llanfechell yn esiampl wych o ysbryd cymunedol, yn gweithio'n dda
gyda'r plant a'r bobl ifanc.
Bydd ffurfio cylch o bobl ifanc i oruchwylio'r parc yn fantais hir dymor trwy roi ymddir¬iedaeth ynddynt a meithrin
balchder a rhoi ysbryd o
berchnogaeth ynddynt yn eu cymuned.
Ategodd y Rhingyll Rhys Owen y dylai Llanfechell fod yn falch o ieuenctid ei bro.
Gwnewch ddefnydd addas a gofalus o'r parc plant, ac edrychwn ar ei ôl, a bydd yn gaffaeliad gwerthfawr a mwynhad pur i chwi am flynyddoedd i ddod.