Fel un o gyn-ddisgyblion Gobeithlu Tyn y Maen pan oeddem fel teulu yn byw yn Bont Maen Melys (Pont y Mab Melys meddai'r hen ddogfennau, ynôl y Parchedig Ddr. D Wyn Williams, daw atgofion serchog am yr addoldy presennol. Ni chafodd yr un capel weithwyr mwy ymroddedig gyda phlant a phobl ifanc na Mr a Mrs Rice Jones, Ty Capel. Eu cyfraniad pennaf oedd ein hyfforddi i ddysgu caneuon ac emynau newydd at y Gylchwyl ac alawon gwerin erbyn Eisteddfod Llanddeusant ac Eisteddfod Môn. Cofiaf Mrs Lena Jones yn mynd â chriw ohonom i Eisteddfod Porthaethwy yn y pum-degau a bonws derbyniol oedd ennill gwobr ar y gân actol "Yr Hen Wr Mwyn". Roedd Owen Hughes, Cae Bach; Alun Williams, Neuadd; Dennis Williams, Siop Elim; Norman Owain Williams, Cartrefle a minnau uwchben ein digon yn yr eisteddfod honno! Dycnwch ac ymroddiad Mrs Lena Jones a'i phriod, wrth gwrs, oedd yn gyfrifol am y llwydd; y ddau wrth eu boddau yn gosod Tyn y Maen ar fap y sir! Un peth fyddai'n cosi dychymyg plentyn yn Nhyn y Maen oedd y golomen a safai'n llonydd yn uchel uwchben y pulpud. Tybed a oedd hi'n perthyn i greiriau'r hen gapel, ynteu ai addurn y capel newydd ym mlwyddyn y Diwygiad yw hi? Yn ôl y sôn, 'esgob' neu arolygwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn oedd John Jones, Bodnolwyn Wen, ac yn Nhyn y Maen y mae ei gadair hynod sy'n ychwanegiad gwerthfawr at y creiriau. Cof plentyn, wrth reswm, sydd gen i am y Parchedig Hugh Roberts, Neuadd, brodor o Gwm Pennant, a fugeiliodd saint Elim a Thyn y Maen gyda chysondeb. Yr unig grair yn fy meddiant i gofio amdano yw'r Cerdyn Post a anfonodd i'm modryb yn Chwaren Wen Isaf o Drawsfynydd 24 Awst, 1928. A dyna bedair 'C' y creiriau: Cwpan John Elias; Colomen y pulpud; Cadair John Jones a Cerdyn cyfarch Hugh Roberts.
|