Ym mynwent Eglwys newydd Llantrisant cafwyd un ar ffurf y Groes Geltaidd. Lewis Jones o Lannerch-y-medd a'i gosododd. Mae ei enw arni.Croes o farmor gwyn ydyw. Erbyn hyn ni chaniateir rhoi cerrig beddi o farmor gwyn ym Mynwentydd yr Eglwys yng Nghymru. Mae yna reswm digonol. Edrychwn mewn hen fynwent lle mae cerrig marmor gwyn ac fe welwch pa mor erchyll o fudr a hagr ydynt. Roedd Cofeb Llantrisant felly ac yn amlwg ddim yn deilwng o'r rhai a goffai. Mae marmor gwyn yn hynod o hydraidd (porous) ac wrth sugno dŵr fe dry'n fan delfrydol i fwsogl a chen dyfu yno. Yna pan ddaw rhew mae'r dŵr yn ehangu a chracio'r marmor. Roedd hyn wedi digwydd yn Llantrisant hefyd. Felly roedd yn hen bryd i'r gofeb gael ei hadnewyddu.
Yn ddiddorol un a'i wreiddiau yn Llannerch-y-medd ddaeth i'r adwy, sef Mr Gareth Owen o Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Glanhaodd hi ac ail beintio'r arysgrif, a rhoi pot blodau marmor gwyn wrth ei throed gyda'r geiriau 'Arwyr y byd, heria'r bedd' arno.
Yr oedd John Jones yn fab i John a Jane Jones, Ty'n Pwll Mawr, Llantrisant. Lladdwyd ef ar 21 Ebrill1917 yn 19 mlwydd oed. Mae ei enw ef ar Gofeb Thiepval. Cofeb yw hon i dros 72,000 o filwyr a laddwyd yn y Somme heb feddrod ganddynt.
Yr oedd Owen Richard Jones yn fab i Mr a Mrs John R. Jones, Henbont, Llanddeusant. Lladdwyd ef ar 17 Ionawr 1917. Mae ei enw ar Gofeb Basra, Irac; y man mae'r rhyfela heddiw. Cofeb yw hon i dros 40,500 o filwyr a laddwyd ym Mesopotamia heb feddrod ganddynt.
(Llynedd ar y ffordd o Galais i Baris, sydd ddigon diflas hefo gwastadeddau llwm bob ochr, yn sydyn eglurodd gyrrwr y bws ein bod yn nesau at y Somme. Gwyddwn i'm tad gael ei glwyfo yn un o frwydrau'r Somme, er na soniai am y peth, a dyma fi'n edrych allan o'r bws a gweld mynwentydd bychain yn y caeau. Gwefr annisgwyl oedd cael bod yn yr union fan y bu fy nhad wythdeg pump o flynyddoedd ynghynt, ond mewn amgylchiadau tra gwahanol).
Nid wyf wedi cael dim gwybodaeth am Hugh Edwards na David Jones. Os clywsoch amdanynt neu eu cysylltiadau rhowch ganiad i mi os gwelwch yn dda (01407 742322).
Edgar Jones
Ar y gofeb ysgrythrwyd: 'Cofier yng ngwydd Duw, Huw Edwards, R.W.F., Penllyn; John Jones, R.W.F., Penterfyn; David Jones, R.A.F., TÅ· Newydd; Owen Richard Jones, R.E., Henbont. Meibion Plwyf Llantrisant a wnaeth aberth bywyd yn y Rhyfel Fawr 1914-1919.'