91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhwyd
Y Parchedig Edgar Jones Y Parch Edgar Jones
Mawrth 2009
Yn arswydus daeth newyddion am farwolaeth y Parchedig Edgar Jones.

Cymeriad arbennig ydoedd, gŵr cyfeillgar, ymroddgar, a chymwynasgar.

Bydda'i gymeriad yn gloywi pob cyfarfod. Ei hiwmor ysgafn pryfoclyd yn denu gwên ac esmwythai sawl achlysur.

Roedd iddo gyfeillion ymhob man, ac fe anwylodd ei hun i gynulleidfaoedd eglwysi lleol lle bu'n offeiriad a lle bu'n aml yn llenwi bwlch mewn plwyfi.

Yn y blynyddoedd diweddar bu galw mawr arno i gynnal y gwasan¬aethau Cymraeg o fewn yr eglwysi.

Iddo perthynai y gallu i gyflwyno neges yr efengyl drwy adrodd stori o fywyd cyfoes. Byddai elfen o gymharu digwyddiadau traddodiadol, hen ffasiwn, gydag agweddau o fywyd heddiw mewn ambell i bregeth.

Hollol gartrefol fyddai'r gwasanaeth o dan ei ofal a phopeth yn drefnus yn ei ddwylo. Roedd wedi paratoi yn drwyadl ac fe gyflwynai y cyfan yn rhwydd ac yn ddefodol.

Deuthum i'w adnabod pan oedd yn athro ysgol ac i minnau ei basio yn ei 'Morris Minor' ar y B5025. Byddai codi llaw yn arwydd o gyfeillgarwch bob bore.

Cefais y profiad o fod mewn gwasanaethau o dan ei arweiniad fel gweinidog, ac ar sawl achlysur cysylltiedig.

Cofiaf am ei bregeth yng Ngwasanaeth Blynyddol y Santes Fair, Llanfair-yn-Neubwll rhyw ddwy flynedd yn ôl.

Gallai ddethol rhannau o'i bregeth i'w gyfieithu er mwyn cynnal diddordeb pawb. Roedd y gynulleidfa yn mwynhau ei ffordd ddeheuig o gyflwyno ei destun.

Edmygais ei gyfraniad anferthol i'r Rhwyd tros y blynyddoedd.

Yn sicr fe fu'n un o sylfaenwyr y cylchgrawn ac yn cynnal diddordeb darllenwyr gyda'i erthyglau diddorol.

Roedd ganddo wybodaeth eang am hanes eglwysi, capeli, a chartrefi hanesyddol ym Môn.

Gwyddai am gymeriadau a straeon am ddigwyddiadau o sylwedd. Cawr yn ei faes yn sicr. Steil arbennig oedd gan Edgar a modd i gysylltu a'i ddarllenwyr yn hawdd.

Brwydrodd dros Eglwys Llanfigael i'w chadw rhag ei dymchwel.

Llwyddodd i ddenu cefnogaeth Yr Eglwys yng Nghymru a CADW i gyfrannu at atgyweirio ac adfer yr adeilad.

Campwaith ymhob ystyr y gair. Llawenhai wrth anfon cerdyn o du fewn yr eglwys oedd mor annwyl ganddo ar gyfer Nadolig.

Gedy fwlch anferthol yn y gymdeithas oherwydd ei gysylltiadau fel offeiriad, fel cyfranwr i'r Rhwyd, ac fel un o gymeriadau anwylaf ein cylch. Bu'n gysylltiedig a chymaint o gymdeithasau a gweithgareddau tros y blynyddoedd.

Gŵr bonheddig a chymwynasgar diymhongar.

Goronwy Parry


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý